Ymosodiadau’n parhau yn Gaza am ail ddiwrnod ar ôl i’r cadoediad ddod i ben
Mae nifer y bobl sydd wedi eu lladd mewn cyrchoedd awyr ers i’r cadoediad rhwng Israel a Hamas ddod i ben wedi codi i dros 150 yn ôl gweinyddiaeth iechyd Hamas yn Gaza.
Dywedodd Israel bod eu lluoedd ar y ddaear, awyr a môr wedi taro dros 400 o dargedau Hamas yn Gaza.
Dywedodd Israel ddydd Sadwrn eu bod nhw wedi tynnu nôl o drafodaethau yn Qatar am gadoediad hir dymor gyda Hamas yn Gaza.
Mae is-lywydd yr Unol Daleithiau Kamala Harris yn debygol o alw am ailuno Palesteiniaid yn Gaza a’r Llain Orllewinol yn dilyn y rhyfel.
Wrth ymweld ag uwch gynhadledd hinsawdd COP28 yn Dubai ddydd Sadwrn, mae disgwyl iddi amlinellu amcanion ar gyfer diwedd y rhyfel rhwng Hamas ag Israel ddod i ben.
Mae disgwyl iddi bwysleisio y dylai pobl Palesteinaidd sy’n byw yn Gaza a’r Llain Orllewinol gael eu huno o dan un endid llywodraethol ar ôl i’r ymladd ddod i ben.
Dros gyfnod o wythnos yn ystod y cadoediad, cafodd 110 o wystlon, sef ychydig dros hanner y rheini oedd yn gaeth yn Gaza, eu rhyddhau.
Roedd y cadoediad i bara am bedwar diwrnod yn wreiddiol, ond fe gafodd ei ymestyn ddwywaith cyn dod i ben ddydd Gwener.
Yn ystod y cyfnod yma fe gafodd cymorth dyngarol, gan gynnwys bwyd a thanwydd, ei gludo i mewn i Gaza.
Cafodd 240 o garcharorion Palesteinaidd eu rhyddhau hefyd fel rhan o'r cytundeb rhwng Israel a therfysgwyr Hamas.
Dywed gwasanaeth iechyd Gaza bod 14,000 o bobl yno wedi eu lladd cyn y cadoediad, wrth i luoedd Israel ddial am ymosodiadau gwaedlyd Hamas ar Israel ar ddechrau Hydref.
Llun: Wochit