Newyddion S4C

'Wythnos hunllefus': Amy Dowden wedi dioddef ceulad ar yr ysgyfaint

01/12/2023
amy dowden.png

Mae Amy Dowden, seren Strictly Come Dancing, wedi dweud ei bod wedi cael "wythnos hunllefus" ar ôl gorfod mynd i'r ysbyty gyda cheulad ar yr ysgyfaint. 

Wrth siarad mewn fideo ar Instagram, dywedodd y Gymraes ei bod wedi cael "wythnos hunllefus" ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty.

Roedd doctoriaid yn poeni y gallai'r ceulad symud tuag at ei chalon.

"Yn ffodus, dim dyma ydi'r achos," meddai. 

Cyhoeddodd y ddawnswraig ei bod wedi derbyn diagnosis o ganser y fron cam 3 ar ôl iddi ddarganfod lwmp nôl ym mis Ebrill.

Ar ôl cael mastectomi, dywedwyd wrthi fod y tiwmorau wedi ymledu ac fe gafwyd hyd i fath arall o ganser.

Mae hi bellach wedi gorffen triniaeth cemotherapi ers tair wythnos. 

"Dwi wedi cael wythnos hunllefus arall yr wythnos hon...does dim diwedd ar hyn," meddai.

"Mae gen i geulad ar yr ysgyfaint, yn amlwg gan ei fod mor agos at fy nghalon, mae'n risg."

Daw hyn wedi i Amy ddweud yn gynharach yr wythnos hon y bydd yn "cymryd peth amser" iddi dderbyn ei diagnosis o ganser mor ifanc tra hefyd yn delio â salwch cronig. 

"Dwi wastad wedi gweithio mor galed. Dwi wastad wedi bod yn berson da. Dwi wedi edrych ar ôl fy hun, dwi wedi cadw'n heini, erioed wedi ymysgu...dwi'n mynd yn flin," meddai.

"Dwi jyst yn teimlo fy mod i wedi ei chael hi'n anodd...dwi'n credu y bydd yn cymryd peth amser i dderbyn hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.