
Cop28: Cynnal cynhadledd newid hinsawdd i bobl ifanc yng Nghymru

Cop28: Cynnal cynhadledd newid hinsawdd i bobl ifanc yng Nghymru
Mae cynhadledd newid hinsawdd wedi ei chynnal yn y Senedd er mwyn annog pobol ifanc Cymru i fynd i’r afael â’r her.
Nod Newid Hinsawdd Model y Cenhedloedd Unedig oedd dwyn ynghyd pobl ifanc i gynrychioli'r gwahanol wledydd oedd yn trafod yr argyfwng hinsawdd.
Daw hyn ar drothwy’r gynhadledd fyd-eang go iawn fydd yn cael ei chynnal yn Dubai, 30 Tachwedd.
Cafodd y digwyddiad yn y Senedd ei noddi gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James a’i drefnu gan y Cyngor Prydeinig.
Dywedodd Ella, un o’r disgyblion a gymerodd rhan yn y gynhadledd, wrth ITV Cymru Wales: “Os dy’n ni ddim yn gwneud pethau nawr, fydd dim gwahaniaeth a bydd y byd yn cael ei ddifrodi.
“Yn enwedig fel person ifanc sydd yn mynd i brofi hyn yn y dyfodol, yn enwedig achos ni yw’r dyfodol a ni sydd yn mynd i weld yr effeithiau yma yn ein byd ni.”
Roedd nifer o’r bobl ifanc yn sôn am y pethau maen nhw’n gwneud ar hyn o’r bryd i geisio mynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gynnwys seiclo a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na char arferol.
Dywedodd Teifi: “Dwi’n eithaf da am droi pethau trydanol bant cyn i fi adael fy nhŷ.”
Fe wnaeth e ychwanegu ei fod eisiau gwneud mwy i ysbrydoli pobl i newid eu harferion nhw o ddefnyddio trydan a nwyon.

‘Dinistrio’
Mewn arolwg diweddar, gan y Lancet Planet Planetary Health, dywedodd fod 60% o bobl ifanc ar draws y byd yn poeni am newid hinsawdd.
Yn ôl data wedi’i darganfod gan Google, mae ymholiadau chwilio ar-lein sydd yn ymwneud â phryder hinsawdd wedi cynyddu gan 4,590% o 2018 i 2023.
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig yng Nghymru: “Pobl ifanc yw’r dyfodol.
“Mae lleisiau ifanc yn dod yn fwyfwy pwysig, a dyw’r her newid hinsawdd ddim yn mynd i ffwrdd, a bydd hyn yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol.
“Mae cefnogi pobl ifanc i allu rhyngweithio yn rhyngddiwylliannol, i siarad gyda chenhedloedd eraill yn ddiplomyddol, ac i ddatblygu eu sgiliau yn hollol bwysig i ddyfodol y brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
“Ry’ch chi’n gallu gweld y blaned yn cael ei dinistrio o’n cwmpas, ac ry’ch chi’n gallu deall cysyniadau fel ailgylchu o oedran eithaf ifanc.
“Mae gen i ferch pedair blwydd oed, ac mae hi’n gwybod sut i ailgylchu o oedran ifanc iawn.”