Newyddion S4C

Profiad cefnogwyr Cymru yn Armenia

21/11/2023

Profiad cefnogwyr Cymru yn Armenia

Wedyn nathon ni fynd i fewn i'r building a gathon ni ein rhesu mewn coridor, oedd 'na goridor hir.

Oedd 'na o leiaf ugain yna, mae'n siŵr jest ar y wal.

Adra yn ei gartref ym Mhenygroes Gerwyn Williams yn son am ei brofiad yn Armenia.

Nos Wener wrth gerdded ar ben ei hun yn ôl i'r gwesty mi gafodd ei ddal i'r llawr gan griw o blismyn a'i luchio i gefn fan.

Oeddan ni heb gael dŵr na bwyd am gymaint o amser oedd bob dim yn dechrau mynd drwy'n meddyliau ni.

Oedden ni'n siarad efo'n gilydd a pawb jest yn panicio. Dyma'r stafell lle cafodd o a rhai o gefnogwyr eraill eu dal heb unrhyw wybodaeth pam eu bod nhw yno.

Oedd hwn yn eistedd wrth fy ochr i jest yn cysgu ar y llawr. Fel dach chi'n gweld yn y cefndir, mi o'dd yna bars ar y ffenestri.

Oedd fi a'r person yma a wedyn hwn oedd yn gwarchod ni fan'na. Ddoth o yma a dechrau gweiddi a siarad efo hwn oedd yn gwarchod ni.

O'dd 'na berson arall efo fo hefyd, rhyw officer arall o'dd o'n siarad efo fo ac o'dd o jest yn chwifio'r gwn yma yn gwynebau'r ddau ohonon ni fel hyn.

Pwyntio'r gwn 'ma yn gweiddi pethau yn eu hiaith nhw. O'n i jest fel, beth sy'n mynd 'mlaen, fel yna. Roedd Gerwyn yn Yerevan, prifddinas Armenia efo criw o ffrindiau, ac yn un o'r 1,200 o gefnogwyr y Wal Goch oedd yn y ddinas.

'Swn i'n lico i rywun i wneud rhywbeth amdan y peth bod nhw'n cael eu neud yn gyfrifol am be maen nhw 'di neud.

Maen nhw i'w weld fel dy'n nhw ddim yn poeni o gwbl am be maen nhw 'di neud.

Doeddwn nhw ddim yn edrych fel bod nhw'n poeni. Wrth i ymchwiliadau barhau, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn deud eu bod mewn cyswllt cyson a'r Heddlu a Chymdeithas Cefnogwyr Cymru.

Ond ar hyn o bryd does dim eglurhad swyddogol ynglŷn a pham fod Gerwyn Williams ac eraill wedi cael eu cadw dan glo heb esboniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.