Pryder am bedwar dyn ifanc sydd wedi mynd ar goll yng Ngwynedd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am wybodaeth am bedwar dyn ifanc sydd ar goll yng Ngwynedd.
Dywedodd y llu mewn datganiad nos Lun eu bod yn pryderu am y pedwar sydd wedi mynd ar goll o ardal Harlech/Porthmadog ers bore dydd Sul.
Enwau'r pedwar yw Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Henderson a Hugo Morris.
Roeddynt yn teithio mewn Ford Fiesta arian gyda phlatiau adnabod HY14GVO cyn mynd ar goll.
Mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi bod yn chwilio am y car mewn meysydd parcio lleol ac fe gafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei hanfon i chwilio ardal ger Garchodfa Natur Glaslyn am 04.30 fore dydd Mawrth am gyfnod.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu'r cyfeirnod A184194.
Dywedodd mam Harvey Owen, Crystal Owen, ar y cyfryngau cymdeithasol: "Dwi'n poeni gymaint, un o'r bechgyn yma ydi fy mab Harvey.
"Plîs, plîs, plîs rhannwch a thagiwch unrhyw un yng Nghymru neu cysylltwch os oes gennych chi unrhyw wybodaeth."
Dywedodd aelod arall o deulu un o'r dynion: "Pls daliwch ati i rannu...os oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth neu'n gallu meddwl am unrhyw beth a allai helpu i ddod o hyd i'r bechgyn, plîs cysylltwch gyda'r heddlu.
"Rydym ni'n erfyn am unrhyw newyddion."