Newyddion S4C

Israel yn ystyried cynnig cadoediad dros dro am ryddid gwystlon o Gaza

17/11/2023
S4C

Mae Israel yn ystyried cynnig cadoediad dros dro am ryddid gwystlon o Gaza, yn ôl adroddiadau.

Mae swyddogion sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau diweddar wedi dweud wrth asiantaeth newyddion Associated Press eu bod yn gobeithio am gytundeb o fewn yr wythnos.

Dywedodd Abbas Ibrahim, cyn bennaeth cudd-wybodaeth Libanus, y gallai bargen fod yn agos pe bai Israel yn cytuno.

O dan y cytundeb dan sylw, gafodd ei drafod gan Gabinet Israel nos Iau, byddai 50 o’r tua 200 o wystlon a gymerwyd i Gaza gan Hamas ddechrau mis Hydref yn cael eu rhyddhau.

Byddai'r gwystlon yn cael eu cyfnewid am rai o blant a menywod Palesteinaidd sy'n cael eu cadw yng ngharchardai Israel ar hyn o bryd a chadoediad am rhai diwrnodau. 

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi dweud ei fod yn “weddol obeithiol” am gytundeb i ryddhau dros 200 o bobl sy’n cael eu dal fel gwystlon yn Gaza, gan Hamas. 

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn nhalaith Califfornia ddydd Mercher, dywedodd Mr Biden fod yr Unol Daleithiau wedi gweld “cyd-weithio gwych” gan Qatar, sy’n arwain trafodaethau rhwng Israel a Hamas. 

Mae'n agos at 220 o bobl yn cael eu dal yn wystlon gan Hamas yn Gaza.  

Ar ffin Israel-Libanus, parhau mae'r tensiynau yno, gyda phryderon yn Israel y gallai rheng flaen newydd yn yr ymladd agor yn dilyn ymosodiadau cynyddol gan filwyr 

Dywedodd byddin Israel yn hwyr nos Fercher eu bod wedi ymateb i “sawl lansiad tuag at diriogaeth Israel" o gyfeiriad Libanus. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.