Newyddion S4C

Ergyd i Syr Keir Starmer wrth i rwygiadau ymddangos o fewn Llafur dros gadoediad yn Gaza

15/11/2023
NS4C

Mae Syr Keir Starmer wedi dioddef sawl ymddiswyddiad o’i brif dîm ar ôl iddo wynebu gwrthryfel meinciau blaen am wrthod cefnogi cadoediad yn Gaza.

Fe wnaeth deg gweinidog yr wrthblaid - gan gynnwys Jess Phillips, Yasmin Qureshi, Afzal Khan a Paula Barker - ymddiswyddo nos Fercher, gan eu bod yn cefnogi'r alwad am gadoediad yn groes i ddymuniad eu harweinydd.

Fe wnaeth ASau yn San Steffan bleidleisio o 293 i 125, gyda mwyafrif o 168, i wrthod gwelliant yr SNP ar Araith y Brenin oedd yn galw ar “bob plaid i gytuno i gadoediad ar unwaith” yn Gaza.

Roedd 56 o ASau Llafur wedi cefnogi gwelliant yr SNP.

Roedd ASau Llafur wedi cael gorchymyn i atal eu pleidlais gan gefnogi safbwynt Syr Keir Starmer oedd wedi galw am “saib dyngarol” hirach yn yr ymladd, yn hytrach na chadoediad. 

Fe fyddai aelodau'r meinciau blaen fel arfer yn wynebu'r sac am dorri chwip y blaid.

Mewn datganiad yn dilyn y bleidlais, dywedodd Syr Keir ei fod yn difaru nad oedd cydweithwyr yn y blaid wedi cefnogi ei safbwynt.

“Ochr yn ochr ag arweinwyr ledled y byd, rwyf wedi galw drwy’r amser am gadw at gyfraith ryngwladol, am seibiau dyngarol i ganiatáu mynediad at gymorth, bwyd, dŵr a meddygaeth, ac rwyf wedi mynegi ein pryderon ynghylch maint yr dioddefwyr cyffredin.

“Mae angen gwneud llawer mwy yn hyn o beth i leddfu’r argyfwng dyngarol sy’n datblygu yn Gaza.

“Ac yn ogystal ag annerch y presennol, mae gan bob arweinydd ddyletswydd... i greu dyfodol gwell a mwy sicr i Balesteiniaid ac Israeliaid.

“Rwy’n gresynu bod rhai cydweithwyr yn teimlo na allant gefnogi’r safbwynt heno. Ond roeddwn i eisiau bod yn glir ynglŷn â lle roeddwn i'n sefyll, a lle byddaf yn sefyll.

“Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â gwneud y peth iawn. Dyna’r lleiaf y mae’r cyhoedd yn ei haeddu. A’r lleiaf y mae arweinyddiaeth yn ei fynnu.”

Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: “Pleidleisiodd ASau Plaid Cymru dros gadoediad heno. Roeddem yn sefyll dros gyfraith ryngwladol, dros amddiffyn sifiliaid, a thros heddwch.

“Mae pleidlais heno yn bwysig iawn i bobl ledled Cymru a’r DU sy’n ceisio cadoediad. Mae angen clywed eu lleisiau. Bydd Plaid Cymru yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ymuno â’r ymdrech fyd-eang i ddod â’r dioddefaint dynol i ben.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.