Ethol Chris Jenkins yn Llywydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad
Mae cyn-rwyfwr tîm Cymru Chris Jenkins wedi’i ethol yn llywydd Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad.
Jenkins yw'r person cyntaf o Gymru i gael ei ethol i'r swydd.
Cynrychiolodd y gŵr o Langynidr, Powys ei wlad yng nghamp rhwyfo yng Ngemau'r Gymanwlad 1986.
Wedi hynny, daeth yn brif weithredwr Gemau'r Gymanwlad Cymru am 16 mlynedd.
Sicrhaodd Jenkins 64 o bleidleisiau gan y 74 o wledydd a thiriogaethau sy’n aelodau.
“Mae’n anrhydedd i gael fy ethol yn llywydd,” meddai.
“Fel mudiad byddwn yn esblygu ac yn arloesi i annog mwy o ddinasoedd i gynnal y Gemau gwych hyn. Rwyf wedi ymrwymo i reoli newid, cyflawni addewidion, a gwneud i bethau ddigwydd.
“Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ac ysbrydoledig i’n teulu Gemau’r Gymanwlad.”
Mae Chris Jenkins wedi ei benodi ar adeg heriol i drefnwyr Gemau'r Gymanwlad.
Ansicrwydd gemau 2026
Nid yw lleoliad Gemau'r Gymanwlad 2026 wedi ei benderfynu ers i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu eu cais i gynnal y gemau yn ôl.
Fe ddaeth y penderfyniad hwnnw ym mis Gorffennaf eleni yn sgil costau cynyddol.
Dywedodd arweinydd y dalaith, Mr Daniel Andrews fod costau wedi codi bron i deirgwaith yn fwy na’r amcangyfrif gwreiddiol o $2.6 biliwn (£1.36 biliwn), i hyd at $7 biliwn (£3.66 biliwn), a'u bod yn canslo eu cynlluniau i gynnal y gemau yno.
Wedi'r cyhoeddiad hwnnw, daeth galwadau gan Tom Giffard AS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ar i Lywodraeth Cymru gynnal astudiaeth er mwyn gweld a allai’r gemau gael eu cynnal yng Nghymru.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd Gemau’r Gymanwlad yn dod i Gymru yn 2026.
Mae ceisiadau i gynnal y gemau yn Kuala Lumpur ym Malaysia, Edmonton yng Nghanada ac Adelaide yn Awstralia hefyd wedi eu tynnu yn ôl yn sgil costau cynyddol.
Llun: Prifysgol De Cymru