Barnwyr y Goruchaf Lys yn paratoi i ddyfarnu ar bolisi Rwanda
Bydd pum barnwr y Goruchaf Lys yn rhoi eu dyfarniad ar bolisi Rwanda Llywodraeth y DU fore Mercher.
Mae Llywodraeth y DU eisiau anfon mudwyr i Rwanda fel rhan o'u polisi tramor.
Bydd barnwyr y Goruchaf Lys yn cyhoeddi a yw'r penderfyniad hwnnw yn gyfreithlon ai peidio.
Yr Arglwydd David Lloyd-Jones yw un o'r barnwyr - Cymro Cymraeg a gafodd ei eni ym Mhontypridd.
Ynghyd â'i ddyletswyddau fel barnwr y Goruchaf Lys cafodd yr Arglwydd Lloyd-Jones ei benodi'n Llywydd cyntaf Cyngor Cyfraith Cymru ym mis Hydref 2021.
Yr Arglwydd Reed, Arglwydd Hodge, Arglwydd Briggs ac Arglwydd Sales yw'r pedwar barnwr arall sydd wedi bod yn ystyried y polisi.
Ym mis Mehefin eleni, dyfarnodd y Llys Apel nad yw Rwanda yn wlad ddiogel i anfon mudwyr iddi.
A phenderfynodd dau o'r tri barnwr yn y llys hwnnw bod polisi Llywodraeth y DU i anfon ceiswyr lloches yno yn "anghyfreithlon".
Clywodd y llys bod diffygion yn y polisi yn golygu bod “risg gwirioneddol” y gallai ceiswyr lloches gael eu hanfon yn ôl i’w mamwlad a wynebu erledigaeth.
Braverman yn bytheirio Sunak
Wrth feirniadu arweinyddiaeth Rishi Sunak yn hallt, wedi iddi gael ei diswyddo ganddo, mae'r cyn Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi ei gyhuddo o fod yn wan wrth ymdrin â pholisi Rwanda.
Dywedodd fod gan Rishi Sunak “ feddwl hudolus” a'i fod wedi methu â llunio cynllun wrth gefn pe bai ei bolisi yn Rwanda yn cael ei rwystro yn y Goruchaf Lys.
Ychwanegodd y gallai fradychu ei addewid i “atal y cychod” hyd yn oed pe bai buddugoliaeth i'r llywodraeth yn y Goruchaf Lys.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog ddydd Mawrth, ar ôl cael ei diswyddo, rhybuddiodd Mrs Braverman nad oedd gan Mr Sunak “gynllun B credadwy” os daw dyfarniad bod y polisi yn anghyfreithlon.
Honnodd hyd yn oed os yw’r polisi’n cael sêl bendith, y byddai ei “gyfaddawd” yn golygu y gallai’r polisi lloches gael ei “rwystro eto” gan Lys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae olynydd Mrs Braverman yn y Swyddfa Gartref, James Cleverly eisoes wedi amlinellu’r canlyniadau posibl yn ystod cyfarfod cyntaf Cabinet y Prif Weinidog ar ei newydd wedd ddydd Mawrth.
Yn ôl Suella Braverman, bydd hi wedi “gwastraffu blwyddyn” ar y Ddeddf Ymfudo Anghyfreithlon a byddai angen i Lywodraeth y Du "ddechrau o'r dechrau” os y byddan nhw’n colli.
Llun: Colin / WikiMedia Commons