350 o domenni glo segur yn cael eu harchwilio'n amlach, medd Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi data ar domenni glo segur yng Nghymru.
Mae'r data ar ffurf mapiau rhyngweithiol sy'n dangos lleoliad y 350 o domenni glo segur sy'n cael eu harchwilio'n amlach.
Daw hyn yn sgil sefydliad Tasglu Diogelwch Tomenni Glo wedi tirlithriad ym Mhendyrus ym mis Chwefror 2020.
Un o amcanion y tasglu ydy cynnig gwybodaeth am domenni glo segur.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2021 restr o'r tomenni glo segur fesul Awdurdod Lleol, ac fe gafodd y rhai oedd angen cael eu harchwilio'n amlach eu categoreiddio yn rhai C a D.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at tua 1,500 o berchnogion tir a thua 600 o feddianwyr eiddo ar draws Cymru er mwyn eu gwneud yn ymwybodol bod naill ai tomen lo gyfan neu ran o domen lo segur yn debygol o fod ar eu tir.
Bydd gwaith cynnal ac arolygu yn parhau, gyda £44.4m ychwanegol ar gael i Awdurdodau Lleol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gwaith yn gallu parhau ar domenni cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James: "Hoffwn i ddiolch i'r Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu cymorth a'u cefnogaeth wrth baratoi'r data i'w gyhoeddi."
"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl sy’n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo’n ddiogel nawr ac yn y dyfodol.
"Bydd ein cynigion yn gwneud hynny drwy osod trefn hirdymor, addas i'r diben o dan arweiniad corff cyhoeddus newydd."