Newyddion S4C

Dedfrydu dyn am ddifrodi swydddfa'r Aelod Seneddol Nia Griffith yn Llanelli

14/11/2023
Swyddfa Nia Griffith AS

Mae llys wedi dedfrydu dyn o Lanelli am ddifrodi swyddfa'r AS Llafur, Nia Griffith, yn y dref. 

Clywodd Llys Ynadon Llanelli fod Joshua James Morris, 31 oed, wedi difrodi’r swyddfa gyda thân gwyllt, ar 1 Hydref eleni.

Plediodd Morris yn euog i ddifrod troseddol a chafodd ei ddedfrydu i 300 awr o waith cymunedol di-dâl.

Mae’r swyddfa ar Stryd y Crochendy hefyd yn cael ei defnyddio gan yr AS Lee Waters. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod difrod i ffenestri a marciau llosgi i flaen yr adeilad yn dilyn y digwyddiad. 

Cafodd Morris orchymyn hefyd i dalu costau a gordal dioddefwr gwerth cyfanswm o £614.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.