Newyddion S4C

David Cameron yn ôl wrth fwrdd y Cabinet ar ôl ei benodiad annisgwyl fel Ysgrifennydd Tramor

14/11/2023
Cabinet Downing St

Mae Rishi Sunak wedi ymgynnull ei Gabinet newydd ddydd Mawrth, gyda’r Arglwydd David Cameron yn hawlio llawer o'r sylw yn dilyn ei atgyfodiad gwleidyddol rhyfeddol.

Mewn cam sydd wedi cynddeiriogi nifer o Geidwadwyr o fewn y blaid, cafodd yr Arglwydd Cameron ei ddyrchafu i un o brif swyddi'r llywodraeth ar ôl i Mr Sunak ddiswyddo Suella Braverman fel Ysgrifennydd Cartref fore dydd Llun.

James Cleverley sydd wedi camu i mewn yn ei lle, gan adael bwlch yn y Swyddfa Dramor sydd wedi ei lenwi gan yr Ysgrifennydd Tramor newydd, yr Arglwydd Cameron, gan greu syndod i lawer ar ôl cymaint o flynyddoedd yn y diffeithwch gwleidyddol.

Roedd yr Arglwydd Cameron yn ôl o amgylch bwrdd y Cabinet ddydd Mawrth am y tro cyntaf ers iddo ymddiswyddo fel prif weinidog a rhoi’r gorau i fod yn AS ar ôl colli refferendwm Brexit yn 2016.

Cyfaddefodd nad oedd dychwelyd yn y fath ddull yn “arferol” ond dywedodd ei fod eisiau cefnogi Mr Sunak trwy “swydd anodd ar amser caled”.

Rhwyg

Fe wnaeth yr ad-drefnu ddydd Llun gynyddu'r perygl o rwyg ymysg ASau yn y Blaid Geidwadol.

Cyflwynodd y Fonesig Andrea Jenkyns lythyr o ddiffyg hyder yn Mr Sunak i Bwyllgor meinciau cefn 1922 y Torïaid o ganlyniad i’r penderfyniad.

Roedd dirprwy gadeirydd y Torïaid, Lee Anderson, ymhlith ASau mewn cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin lle rhannwyd pryderon am ddiarddel Mrs Braverman ar ôl iddi gyhuddo’r heddlu o ragfarn.

Fe allai tensiynau gael eu cynyddu ymhellach ddydd Mercher, pan fydd y Goruchaf Lys yn rhoi ei ddyfarniad ar bolisi lloches Rwanda sy’n ganolog i addewid Mr Sunak i “atal y cychod” rhag croesi’r Sianel.

Fe allai Mrs Braverman, a rybuddiodd y bydd ganddi “fwy i’w ddweud maes o law”, ychwanegu at y pwysau sydd ar Mr Sunak yn y dyfodol agos os yw'n dewis siarad yn agored am ei diswyddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.