Kaiser Chiefs i berfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Mae Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangollen wedi cyhoeddi y bydd y band Kaiser Chiefs yn perfformio yn yr wŷl y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth Kaiser Chiefs berfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Sir Ddinbych yn 2018.
Mae'r ŵyl gerddorol flynyddol yn denu perfformwyr o bedwar ban byd, ac mae’r Manic Street Preachers, Suede, Paloma Faith a Nile Rodgers & CHIC, eisoes wedi eu cadarnhau fel perfformwyr yn yr Eisteddfod yn 2024.
Mae’r cyngherddau gan fandiau pop a roc poblogaidd wedi eu trefnu yn sgil partneriaeth newydd gyda chwmni hyrwyddo cerddoriaeth, Cuffe and Taylor.
Ac mae’r wŷl yn dweud y bydd rhagor o enwau yn cael eu cyhoeddi dros “yr wythnosau nesaf”.
Dywedodd Dave Danford, Rheolwr Cynhyrchu Eisteddfod Gerddorol Rhyngwladol Llangollen: “Rydym yn falch iawn y bydd Kaiser Chiefs yn dychwelyd i Langollen. Fe wnaethon nhw gael ymateb gwych yn 2018 ac rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi y bydden nhw’n dod a’u hanthemau yn ôl i ogledd Cymru yn 2024.
“Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf yn ein partneriaeth newydd gyda Cuffe and Taylor, sydd yn hyrwyddo cyngherddau Live Nation, gyda rhagor o gyhoeddiadau i ddod dros yr wythnosau nesaf.”