Newyddion S4C

Prif ysbyty Gaza 'ddim yn gweithredu fel ysbyty mwyach', medd Sefydliad Iechyd y Byd

13/11/2023
Ysbyty al-shifa Gaza

Nid yw prif ysbyty Gaza yn gweithredu fel ysbyty bellach, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). 

Yn ôl yr WHO, nid yw ysbyty Al-Shifa yn Gaza “yn gweithredu fel ysbyty mwyach”.

Dywedodd pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd, Tedros Adhanom Ghebreyesus, fod y sefyllfa yn ysbyty Al-Shifa yn “enbyd a pheryglus”. 

Ychwanegodd bod bomio cyson yn gwaethygu’r amgylchiadau sydd eisoes yn argyfyngus.

Mae o leiaf 2,300 o bobol yn dal i fod y tu mewn i ysbyty Al-Shifa yn ôl y weinidogaeth iechyd yn Gaza, sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.

Daw adroddiadau hefyd gan staff meddygol yr ysbyty yn Gaza bod tri baban newydd-anedig wedi marw. 

Mewn datganiad ar gyfrwng cymdeithasol ‘X’, dywedodd Mr Ghebreyesus: “Mae nifer y marwolaethau ymhlith cleifion wedi cynyddu’n sylweddol,

“Mae wedi bod yn 3 diwrnod heb drydan, heb ddŵr a gyda rhyngrwyd gwael iawn sydd wedi effeithio'n ddifrifol ar ein gallu i ddarparu gofal hanfodol.

“Yn anffodus, nid yw’r ysbyty yn gweithredu fel ysbyty bellach.”

Mae byddin Israel yn dweud eu bod wedi cytuno i helpu i symud babanod o'r ysbyty i gyfleuster "mwy diogel" ond yn gwadu bod Al-Shifa wedi colli pŵer. 

Mae Israel wedi bod yn bomio Gaza ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref, sydd wedi lladd 1,400 o bobl, gyda mwy na 200 wedi eu cymryd fel gwystlon. 

Yn ôl y weinidogaeth iechyd yn Gaza, sy'n cael ei rhedeg gan Hamas, mae mwy na 11,000 o bobl wedi'u lladd ers i’r ymladd ddechrau - gyda mwy na 4,500 ohonynt yn blant.

Llun: Ysbyty Al-Shifa, Gaza (Wochit)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.