Gwyntoedd cryfion yn bosib wrth i Storm Debi daro rhannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd a fydd o bosib yn "gryf iawn" i rannau o Gymru wrth i Storm Debi gyrraedd ddydd Llun.
Daeth y rhybudd i rym am 04:00 a bydd yn dod i ben am 18:00 ddydd Llun.
Mae posibilrwydd y gallai tai a busnesau brofi llifogydd, gan achosi difrod i rai adeiladau.
Inline Tweet: https://twitter.com/caierith/status/1723997763774373998
Gall oedi fod yn debygol ar gyfer gwasanaethau trên a bws, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir Gaerfyrddin
- Sir y Fflint
- Wrecsam
- Ynys Môn
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod yna "rywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch union lwybr a dyfnder" y storm.
"Mae siawns y bydd gwyntoedd gorllewinol cryf iawn yn datblygu ar hyd arfordiroedd Môr Iwerddon yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr fore Llun," medden nhw.
"Mae yna bosibilrwydd y bydd hyrddiau 60-65 mya ar y tir a 70-80 mya o amgylch yr arfordiroedd, a thros dir uwch."
Mae ysgolion mewn rhannau o Iwerddon wedi cael cais i gau wrth i asiantaeth feteorolegol Iwerddon rybuddio am “berygl posib i fywyd” gan Storm Debi.