Newyddion S4C

Rhai o siroedd Cymru â’r ganran isaf o ffyrdd wedi eu deuoli ym Mhrydain

13/11/2023
Ffordd ddeuol

Mae rhai o siroedd Cymru â’r ganran isaf o briffyrdd sy'n rhai deuol ym Mhrydain.

Dim ond 0.3% o ffyrdd ‘A’ Ceredigion sy'n rhai deuol, sef y canran isaf o holl siroedd y DU nad oedd yn cynnwys ynysoedd pellennig oddi ar dir mawr yr Alban neu Loegr.

Roedd Sir Benfro (0.8%), Powys (1.4%) a Gwynedd (3.5%) hefyd yn y 15 isaf o dros 200 o siroedd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Ynysoedd Erch yr Alban ac Ynysoedd Syllan oddi ar arfordir Cernyw oedd ar waelod y rhestr, heb unrhyw ffyrdd deuol o gwbl.

Mae dwy o siroedd Cymru – Casnewydd a Chaerdydd – mewn safle mwy ffafriol ar y rhestr.

Mae 63.9% o ffyrdd ‘A’ Casnewydd a 51.3% o rai Caerdydd yn rhai deuol , gan eu gosod yn y drydedd a’r 16eg safle.

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU wedi cais gan asiantaeth newyddion PA.

'Annhebygol'

Dywedodd llywydd yr AA, Edmund King fod deuoli ffyrdd ‘A’ yn ei gwneud hi’n haws ac yn saffach goddiweddyd cerbydau mawr neu arafach gan gyflymu teithiau pobl.

”Mae tagfeydd ar y ffyrdd yn costio biliynau i fusnesau ac yn wael i safon yr aer ac allyriadau CO2.”

Dywedodd Steve Gooding, cyfarwyddwr elusen ffyrdd yr RAC Foundation ei fod yn "annhebygol" y bydd rhaglen o waith er mwyn deuoli nifer o ffyrdd ‘A’ Prydain.

“Mae’n gwneud mwy o synnwyr i ganolbwyntio ar broblemau a rhwystrau penodol na cheisio uwchraddio cannoedd o filltiroedd o ffyrdd,” meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu adeiladu neu ddatblygu ffyrdd newydd os ydyn nhw'n cynyddu capasiti ffyrdd neu'n cynyddu allyriadau drwy gyflymder uwch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.