Ymchwiliad llofruddiaeth Casnewydd: Teyrngedau i ddyn lleol

Heol Balfe, Casnewydd
Mae Heddlu Gwent wedi dechrau ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn o Gasnewydd nos Iau.
Mae pum person – tri dyn 18 ac 19 oed, a dau fachgen 17 oed , yn y ddalfa ar hyn o bryd ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Mae'r dyn wedi ei enwi yn lleol fel Ryan O'Connor medd adroddiad Wales Online, ac mae teyrngedau a blodau wedi eu gadael ger y fan ble y bu farw.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google