Dyn yn pledio’n ddi-euog i lofruddio menyw yng Nghlydach
Mae dyn wedi pleidio yn ddi-euog i lofruddio dynes yng Nghlydach.
Fe wnaeth Brian Whitelock, 56, ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener wedi ei gyhuddo o lofruddio Wendy Buckney, 71.
Siaradodd dros linc fideo o'r carchar er mwyn cadarnhau ei enw a phleidio'n ddi-euog.
Cafodd corff Ms Buckney ei ddarganfod y tu allan i’w chartref yng Nghlydach ar 23 Awst y llynedd.
Hi oedd sylfaenydd Canolfan Farchogaeth Pen-Y-Fedw ac roedd hi’n parhau i gadw ceffylau ar ôl ymddeol.
Fe wnaeth y llys glywed bod disgwyl achos llys bythefnos o hyd ym mis Rhagfyr neu Ionawr.
Wrth roi teyrnged i Wendy Buckeny, dywedodd ei theulu eu bod "wedi eu rhwygo ac fe welwn ni ei heisiau hi am byth.
"Fel teulu rydym wedi'n llorio fod ein chwaer, modryb a ffrind cariadus wedi ei chymryd mewn ffordd mor drasig."