Newyddion S4C

'Cerwch amdani': Ceisiadau Cân i Gymru 2024 ar agor

10/11/2023
Can i Gymru

Mae cystadleuaeth  Cân i Gymru 2024 yn barod i dderbyn ceisiadau gan gyfansoddwyr. 

Bydd y gystadleuaeth, sydd yn un o hoelion wyth y calendr cerddorol yng Nghymru, yn dychwelyd y flwyddyn nesaf.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal  am y tro cyntaf  ar lwyfan Arena Abertawe ar 1 Mawrth 2024, sef Dydd Gŵyl Dewi.

Osian Huw Williams,  prif leisydd y Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, fydd yn cadeirio'r rheithgor yn ogystal â mentora'r cystadleuwyr. 

Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn derbyn £3,000 a'r trydydd yn derbyn £2,000. 

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur fydd yn dychwelyd i gyflwyno'r noson. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 5 Ionawr, gyda'r cystadleuwyr yn cael eu cyhoeddi ar 12 Chwefror. 

'Cerwch amdani'

Dywedodd Osian Huw Williams: "Dwi’n hynod gyffrous o fod yn cadeirio’r rheithgor beirniadu achos mi fydda i’n cael deud pwy dwi eisiau gweithio efo, ond hefyd dwi wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth fy hun o’r blaen ac mae o wastad yn ddifyr, wastad yn hwyl, felly mae cael bod yn fwy o rhan ohono fo yn hynod gyffrous.

“Mae’r elfen gyfansoddi yn bwysig iawn achos mae o’n rhoi platfform cenedlaethol i rywun, yn enwedig pobl ifanc sy’n dechrau allan, fatha pan wnaethon ni guro nol yn 2013 mae’n cael dy enw di allan yno.

“Cerwch amdani – does ‘na ddim byd yn stopio chi boed o’n chi ben eich hunan yn llofft efo ’chydig o ganeuon neu efo un gân, neu bod chi efo band, ’da’ch chi ddim yn gwybod be’ neith ddigwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.