Newyddion S4C

Beirniadu cwymp ‘syfrdanol’ yn nifer y myfyrwyr prifysgol yng Nghasnewydd

09/11/2023
Campws Casnewydd

Mae cwymp o 75% yn nifer y myfiwyr prifysgol yng Nghasnewydd wedi ei feirniadu gan arweinydd yr wrthblaid ar gyngor y ddinas.

Cafodd Prifysgol De Cymru ei chreu yn 2013 drwy gyfuno Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.

Yn 2011 roedd dros 10,000 o fyfyrwyr y brifysgol yng Nghasnewydd ond mae’r ffigwr hwnnw wedi syrthio i ychydig dros 2,500 yn unig.

Mewn cymhariaeth, mae Caerdydd yn gartref i dros 40,000 o fyfyrwyr - gan gynnwys rhai Prifysgol De Cymru sydd hefyd wedi ehangu eu campws nhw yno.

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid ar gyngor Casnewydd, Matthew Evans, bod y ffigyrau diweddaraf yn “syfrdanol” a bod Casnewydd yn dioddef o ganlyniad.

Roedd Casnewydd hefyd yn syrthio ar ei hôl hi o’i gymharu â Phontypridd, lle mae campws mwyaf Prifysgol De Cymru, meddai.

“Mae poblogaeth fywiog o fyfyrwyr yn hanfodol i’n heconomi leol, ac mae angen i’r brifysgol gamu i’r adwy a buddsoddi yn y ddinas,” meddai’r Cynghorydd Evans.

Dywedodd Prifysgol De Cymru eu bod nhw wedi ymroi i Gasnewydd ac yn “parhau i ddatblygu partneriaethau a chysylltiadau o fewn y ddinas”.

‘Heriol’

Roedd cyngor y ddinas wedi buddsoddi £10m mewn campws newydd ar lannau Afon Wysg yng Nghasnewydd a agorodd yn 2011.

Dywedodd Matthew Evans bod y buddsoddiad hwnnw wedi ei wneud gan ddeall y byddai Prifysgol De Cymru yn ehangu yn y ddinas ond “dyw hynny heb ddigwydd”.

Wrth ymateb dywedodd Prifysgol De Cymru eu bod nhw’n “bwriadu ehangu” ond ei fod yn “rywbeth yr ydan ni’n parhau i weithio arno yn ystod cyfnod heriol i addysg uwch.

“Rydyn ni’n cydnabod bod gennym ni rôl ehangach na chynnig addysg yn unig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i greu gwerth ar gyfer y ddinas a’r rhanbarth ehangach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.