Cyhoeddi enw bachgen 15 oed fu farw ar ôl cael ei drywanu yn Leeds
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw bachgen 15 oed fu farw wedi ymosodiad ger ysgol yn Leeds.
Fe gafodd Alfie Lewis ei drywanu yn ardal Horsforth, Leeds ddydd Mawrth.
Dywedodd yr heddlu bod dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu harestio, a bod ymchwiliad i lofruddiaeth ar y gweill.
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Alfie Lewis ar-lein ac mewn eglwys leol.
Dywedodd Paul Bell, pennaeth Ysgol Horsforth, bod yr ysgol “wedi’i syfrdanu gan y caredigrwydd a’r gefnogaeth.
“Mae trasiedi fel hon yn sioc enfawr i’n hysgol a’n cymuned leol, ac rydyn ni’n deall y bydd y digwyddiad prin hwn yn effeithio’n fawr ar bobl,” meddai.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod y bydd y gymuned yn ymgynnull i gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod trist ac anodd hwn.”
'Bachgen caredig'
Fore Mercher, mae pobl wedi bod yn gosod blodau ger y fan y bu farw'r bachgen ar gyffordd Heol yr Eglwys a Lôn yr Eglwys.
Mae tudalen gofundme wedi codi mwy na £5,000 hyd yn hyn ar gyfer teulu Alfie Lewis. Ar y dudalen honno, cafodd ei ddisgrifio fel "bachgen caredig a meddylgar ".
Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio Heddlu Gorllewin Swydd Efrog, y Ditectif Brif Arolygydd Stacey Atkinson, yn gynharach: “Mae ein hymchwiliad yn ei ddyddiau cynnar ac rydym yn cynnal ymchwiliadau helaeth i sefydlu beth yn union a arweiniodd at y golled ddiangen hon.
"Rydym yn deall yr effaith aruthrol a'r sioc enfawr y bydd digwyddiad trasig o'r natur hwn yn ei gael ar y gymuned leol."
Dywedodd fod yr heddlu wedi siarad â nifer o dystion, ond eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd.
Llun: Facebook