Newyddion S4C

Athrawes o Gaerdydd yn cwblhau dwy ras IronMan ar ôl torri ei chefn

07/11/2023

Athrawes o Gaerdydd yn cwblhau dwy ras IronMan ar ôl torri ei chefn

"Na'i gyd allai weud o'dd rhywun yn edrych lawr arna i."

Bron i 20 mlynedd yn ôl roedd Sian Harries yn teithio ar draws Awstralia. Wrth neidio i'r dŵr ar draeth Airlie ger Queensland, fe dorrodd ei chefn. 

Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, nid oedd modd ei symud rhag achosi mwy o niwed iddi.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd ei bod wedi cael ei chludo i'r ysbyty lleol cyn teithio deirawr oddi yno i ysbyty yn Brisbane.

"O'n i bach yn rhy uchel a nes i glanio yn anghywir," meddai'r athrawes ymarfer corff 41 oed.

"Torrais i T12, oni'n ffodus iawn, ond nes i bennu lan mewn cwpl o ysbytai a wedyn nes i bennu lan mewn Brisbane Spinal Unit, ac o'n i'n ffodus iawn nhw yw'r spinal unit gorau yn y De Hemisphere."

Image
T12 fracture
Torasgwrn T12 i'r cefn

Roedd ei hanafiadau yn ddifrifol a dywedodd y meddygon y gallai golli teimlad yn ei choesau:

"Nid colli bywyd, ond colli jyst teimlad o'r coesau i lawr.

"O'n i'n ffodus iawn, jyst y ffordd o'dd y fracture wnaethon nhw adeiladu lan y T12 a ges i hip graft jyst i adeilau fe lan, ond 'na gyd allai weud o'dd rhywun yn edrych lawr arna i."

Roedd angen llawdriniaeth arni yn Awstralia er mwyn iddi wella, ac yna triniaeth bellach yng Nghymru.

"O'dd y fracture yn un lle o'dd e reit ar bwys spinal cord fi, o'n nhw ddim yn cael symud fi o gwbl. O'dd gennai cwpl o opsiynau ond o'dd yr op o'dd y opsiwn fwyaf saff, diogel fi'n credu.

"Ges i mwy o driniaeth wedyn yng Nghymru, i gael y pins i gyd allan."

Teulu ar ben arall y byd

Gyda'i rhieni, ei brawd a'i chwaer yn ôl yng Nghymru, roedd Sian yn ffodus iawn fod ganddi deulu oedd yn byw yn Awstralia yn ystod y cyfnod hwn. 

"O'n i'n ffodus iawn o'dd 'da fi llawer o teulu yn Awstralia, enwedig yn Brisbane, so nes i cael fy hedfan tair awr o'r gogledd lawr i Brisbane so o'n i'n ffodus iawn o leiaf oedd 'da fi teulu o gwmpas fi ar y pryd.

"Roedd fy chwaer yn gwneud ei harholiadau Lefel A ar y pryd, felly roedd hwnna wedi achosi lot o straen i hi."

Ailgydio 

Roedd hi'n cadw'n heini ac yn rhedeg llawer cyn y ddamwain, ac wedi iddi ddechrau gwella dechreuodd ailgydio ynddi, ond nid oedd hynny yn hawdd.

Dywedodd ei bod hi'n anodd iawn iddi ddechrau rhedeg ac nid oedd modd iddi gyflawni mwy 'na hanner milltir cyn mynd yn flinedig.

"Nes i trial mynd nôl mewn i redeg, jyst fwy hwyl a cymdeithasol fwy na dim byd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ond o'n i'n gael problemau a poen eithaf mawr gyda pengliniau fi. Es i gweld gymaint o physios dros y blynyddoedd, ni'n sôn am dros 15 mlynedd fan hyn, a jyst methu dod i gwraidd y problem. 

"Nes i drio gwahanol methods, pethau gwahanol, ac i'r pwynt tua tair mlynedd yn ôl o'n i methu hyd yn oed rhedeg hanner milltir."

Image
Sian Harries
Nid oedd ailgychwyn rhedeg yn rywbeth hawdd i Sian Harries

Wedi iddi ymweld â sawl ffisiotherapydd, fe ddaeth o hyd i wraidd y broblem. 

"Ma' nhw 'di darganfod, ma'r holl problemau pengliniau, gwraidd y problemau yw o'r cefn fi a'r damwain o'r cefn. 

"Mae 'di bod yn proses eitha' hir ond i feddwl dau a hanner mlynedd yn ôl o'n i methu neud Park Run. I nawr gallu cwblhau IronMan's a triathalon's gwahanol."

Dinbych-y-pysgod i Hawaii

Eleni mae Sian Harries wedi cystadlu mewn dwy gystadleuaeth IronMan a nifer o gystadlaethau hanner IronMan.

Fe wnaeth ei chanlyniad yn IronMan Cymru yn Ninbych-y-pysgod wedi sicrhau lle iddi ym Mhencampwriaeth IronMan y Byd yn Hawaii ar 14 Hydref.

Mewn llai na thair blynedd, fe aeth hi o fethu a chwblhau rhediad 5k Park Run i gwblhau her IronMan mewn 11 awr.

"Blwyddyn yma wnes i neud cwpl o hanner IronMans, wel y pellter yna so 70.3s ma nhw'n galw nhw, jyst fel paratoad ar gyfer y pencampwriaethau'r byd. 

"Wnes i qualifyo ar gyfer hwnna blwyddyn diwethaf yn IronMan Wales, lle wnes i'n eitha da a ges i'r slot wedyn i fynd i Kona. 

Image
Sian Harries
Sian Harries yn croesi'r llinell ym Mhencampwriaeth IronMan y Byd yn Hawaii.

Roedd y cyfnod ymarfer yn heriol iawn iddi, ac roedd hi'n codi yn yr oriau mân am 04:30 rai dyddiau er mwyn gallu ymarfer cyn dysgu yn Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd.

"Mae'n eitha' full on i ceisio trainio pob dydd achos ma' tri discipline o ran y nofio, seiclo y rhedeg ac wedyn yr S&C, y strength a conditioning a'r cryfhau, ynghyd â pethau fel yoga a strategaethau ymarfer.

"Mae yn eitha' full on, ti'n gwybod, fi'n deffro yn gynnar iawn fel 04:30 ymlaen i ceisio ffito traino mewn cyn gwaith, neu ar ôl gwaith wedyn.

Parhau i gystadlu 

Nid yw'r athrawes yn bwriadu rhoi'r gorau i gystadlu wedi iddi gwblhau dwy ras IronMan.

Fe fydd hi'n cymryd cyfnod o saib am ychydig ond fe fydd hi'n cystadlu eto yn y dyfodol.

"Fi'n bwriadu neud nhw yn y dyfodol eto ond ddim y dyfodol agos.

"Fi jyst mynd i gollwng lawr i'r half IronMan's, enwedig yn dysgu a gymaint yn mynd 'mlaen, mae'n commitment enfawr.

"Felly, fi'n credu blwyddyn yma, bendant jyst y half IronMan's fydd e."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.