Newyddion S4C

Bachgen o Gwm Gwendraeth i serennu yng nghyfres newydd The Crown

07/11/2023

Bachgen o Gwm Gwendraeth i serennu yng nghyfres newydd The Crown

“Pan oedd e’n ifanc odd da fe (Y Tywysog Harry) cheek a hwyl iddo fe, ac fel bychan o Gwm Gwendraeth fi’n siario hynna fyd!”

Yn wreiddiol o bentref Milo yn Sir Gaerfyrddin, Fflyn Edwards, sy'n 14 oed, fydd yn chwarae rhan y Tywysog Harry yng nghyfres olaf The Crown.

Mae’r gyfres wedi dod yn boblogaidd iawn o amgylch y byd ers 2016 gan ddilyn rhai o digwyddiadau allweddol Y Teulu Brenhinol.

Dywedodd Fflyn wrth Newyddion S4C: “Ffindes i mas yn Nhŷ Ddewi. O ni lawr ar y traeth gyda ffrindiau fi ac achos o ni’n  gwersylla nes i ddala bach o tan,” meddai Fflyn. 

“A dyma Mam yn rhedeg lawr ac yn paentio fi yn eli haul; ac o ni’n wyn, wyn a wedyn rhoi het amdano fi a dweud sai gallu mynd mas heb eli haul. 

“Wedon nhw (Netflix) ma da ti’r rôl ond fyddi di ffaelu cal e os ti’n mynd yn fwy tanned.”

“Fi di neud jobyn da iawn o gadw fe’n gyfrinachol ond oedd rhaid i fi weud wrth Mamgu achos ma Mamgu yn absolutley chuffed, ac ma hi’n caru’r Teulu Brenhinol felly oedd rhaid gweud wrthi hi.”

'Dysgu acenion'

Mae gan Fflyn acen Cwm Gwendraeth gref ac fe drodd i’r we i feistroli acen Seisnig Y Tywysog Harry. Roedd hefyd angen iddo wisgo wig o wallt coch. 

“Bob bore oedd e’n cymryd awr, awr a hanner i roi e arno. A weithiau o ni moen crafu fe, ond o ni ffaelu,” meddai.  

“I fod yn onest ma YouTube yn helpu lot a fi’n hoff iawn o ddysgu acenion mae’n good sbri, so o ni’n hapus i ddysgu fe ac fe ges i hwyl yn neud e, ac  o ni’n oret yn neud e I guess.”

Mae’r gyfres yn cynnwys rhai o fawrion y byd actio gydag Imleda Staunton wedi ei chastio fel y diweddar Frenhines Elizabeth II a Dominic West fel Y Tywysog Siarl. 

“Odd e’n brofiad anhygoel. Ma nhw jyst  bobl normal. Fyddet ti’n meddwl bydde nhw’n eithaf gwahanol ond ma nhw exactly yr un peth a ni. Ond Dominic West o ni’n hoff iawn o fe, oedd e’n ddoniol, oedd e’n really ddoniol.

“A’r bychan sy’n actio Tywysog William, Rufus Kampa, ma fe’n berson talentog a fi di cadw cyswllt da fe.”

Fe fydd y chweched gyfres yn edrych ar yr 1990au hwyr a dechrau'r 2000au. Un digwyddiad arwyddocaol y cyfnod oedd marwolaeth y Dywysoges Diana yn 1997. 

Fe fuodd Fflyn yn rhan o ail-greu un o olygfeydd cofiadwy o’r Tywysogion William a Harry yn cerdded tu ôl i arch eu mam ar ddiwrnod ei hangladd.

“Pan o ni’n ffilmio fe oedd pawb yn really parchus amdano fe," meddai.

“O ni’n eitha lwcus nes i ddim gorfeddwl e, ond o ni’n trystio'n hunan ac o ni wedi neud fy ymchwil. Ond sai moen sbwylio unrhyw scenes er lles y ffans, nac i Mamgu."

'Pwysigrwydd hanesyddol'

Yn ôl Fflyn, boed yn frenhinwr ai peidio, fe ddylai bawb wneud ymdrech i wylio'r gyfres oherwydd y pwysigrwydd hanesyddol.

“Fi’n credu  mae’n bwysig i bawb gwylio fe. Fel ein bod nhw’n gwybod beth oedd yn mynd mlaen a bod yn informed amdano fe," meddai. 

Bu'n brofiad cysurus o glywed y Gymraeg wrth weithio ar y set hefyd gyda rhai aelodau o'r tîm cynhyrchu yn Gymry Cymraeg. 

“Odd e’n neis gweld a siarad gyda phobl Cymraeg," meddai.

"Pan o ni bant o gytre o ni’n misso’r iaith a phan o ni bant o ni ddim yn defnyddio fe a fi’n siarad Cymraeg gytre da Mam a Dad. Ac odd cwrdd â phobl Cymraeg ar y set, oedd yn siarad Cymraeg yn neud i fi deimlo’n really gyfforddus a hapus. 

Fe fydd y rhan gyntaf o’r gyfres yn cael ei lansio wythnos nesaf a'r ail ran ar gael o 14 Rhagfyr ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.