Newyddion S4C

Cynnydd yn nifer y gyrwyr sy'n dwyn tanwydd

07/11/2023
Petrol

Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o ddwyn petrol neu ddisel o orsafoedd yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae data gan sefydliad yr RAC Foundation yn dangos bod dros 39,563 o achosion rhwng Gorffennaf a Medi eleni.

Mae hynny yn gynnydd sylweddol o gymharu â'r 22,335 o achosion a gafodd eu cofnodi yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Yn ôl aseswyr, mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau yn ymwneud â gyrru ymaith, pan fo gyrrwr yn llenwi ei gerbyd â phetrol neu ddisel heb unrhyw fwriad i dalu.

Yr amcangyfrif  ydy bod troseddau o'r fath yn costio £10,500 y flwyddyn ar gyfartaledd i orsafoedd petrol.

Y gosb uchaf i yrwyr sy'n euog o yrru ymaith heb dalu, sy'n drosedd o dan Ddeddf Dwyn 1978, yw dwy flynedd o garchar a/neu ddirwy ddi-derfyn.

‘Peidiwch â llenwi os na allwch chi dalu’

Dywedodd cyfarwyddwr sefydliad RAC Foundation, Steve Gooding: “Ymhlith yr holl sylw diweddar yn y cyfryngau i’r epidemig o ddwyn o siopau, mae’n debyg na ddylai fod yn syndod bod dwyn petrol a disel yn ymddangos yn broblem fawr a chynyddol.

“Y neges i unrhyw un sy’n ystyried gyrru i ffwrdd heb dalu yw ‘Peidiwch â llenwi os na allwch chi dalu’ oherwydd mae cael eich dal yn bosibilrwydd gwirioneddol, ac mae colledion ariannol i gwmnïau yn y pen draw yn arwain at brisiau uwch i ni i gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.