Newyddion S4C

Honiadau treisio yn erbyn AS Ceidwadol yn 'ddifrifol iawn' medd y Prif Weinidog

06/11/2023
Rishi Sunak

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud fod honiadau o dreisio yn erbyn Aelod Seneddol Ceidwadol yn “ddifrifol iawn.”  

Daw sylwadau Mr Sunak yn dilyn adroddiadau sy'n honni fod cyn-gadeirydd y blaid Geidwadol, Syr Jake Berry, wedi rhybuddio’r heddlu fod “methiant” mewnol wedi galluogi AS Ceidwadol  i “barhau i ymosod.” 

Dyw enw'r Aelod Seneddol o dan sylw ddim wedi ei gyhoeddi. 

Yn ôl copi o lythyr aeth i ddwylo’r Mail On Sunday, dywedodd Syr Jake ei fod yn credu iddo ymosod “sawl gwaith.”

Yn ôl adroddiadau, daeth yr honiadau i sylw Syr Jake ar ôl iddo ddarganfod fod y blaid Geidwadol wedi talu am gost triniaeth un o’r dioddefwyr honedig mewn ysbyty preifat.

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak bellach wedi annog unrhyw un sydd â thystiolaeth o gamymddwyn troseddol i gysylltu â’r heddlu ar frys. 

‘Difrifol iawn’

Mae’r blaid Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi galw am ymchwiliad i’r blaid Geidwadol.

Wrth siarad â darlledwyr wrth ymweld â gorsaf nwy yn Norfolk ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak fod yr honiadau yn “ddifrifol iawn.” 

“Efallai eu bod yn cyfeirio at rywbeth sydd eisoes yn destun ymchwiliad gan yr heddlu, felly rwy’n gobeithio eich bod yn deall na fyddai’n iawn i mi wneud sylw pellach ar hynny’n benodol,” meddai wrth siarad am yr honiadau.  

“Yn fwy cyffredinol, mae gan y Blaid Geidwadol fesurau annibynnol yn eu lle i alluogi unigolion i gwyno. 

“Ond hoffwn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth i gysylltu â’r heddlu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.