Newyddion S4C

Gŵr o Aberdâr yn gobeithio codi £250,000 i drin tiwmor ar yr ymennydd

05/11/2023
Matthew Collins

Mae gŵr o Aberdâr sydd wedi derbyn diagnosis canser yr ymennydd yn ceisio codi £250,000 er mwyn talu am driniaeth i ymestyn ei fywyd.

Cafodd Matthew Collins, 35 oed, ddiagnosis o glioblastoma, sef tiwmor ar yr ymennydd, ym mis Hydref, ar ôl dioddef strôc.

Nid oes modd iddo wella o’r cyflwr.

Bydd Mr Collins yn derbyn radiotherapi a chemotherapi ar ôl triniaeth i gael gwared ar y tiwmor, ond mae’n dweud mai ar gyfartaledd, fod pobl sydd â’r cyflwr yn byw am 12 i 18 mis ymhellach.

Ond gyda thriniaeth arbenigol, sef brechlyn o’r enw Dc-VaxL, fe allai hynny ymestyn i dair blynedd. Nawr mae ymgyrch ar droed i godi’r arian sydd eu hangen i dalu am y brechlyn, sydd yn cael ei ddatblygu gan gwmni Northwest Biotherapeutics.

'Prognosis gwael'

Dywedodd Matthew, sydd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cymru: “Mae’r canser sydd gen i gyda phrognosis gwael. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw am 12 i 18 mis.

“Mae’r opsiynau am ei drin yn brin iawn ond mae un brechlyn sydd yn edrych yn addawol yn y maes imiwnoleg, sydd yn dyblu’r niferoedd sydd yn gwella o’r canser, ac yn achos rhai pobl, ymestyn eu bywydau am flynyddoedd yn hytrach na misoedd, sef beth mae’r triniaethau radiotherapi a chemotherapi yn gallu cynnig.

“Yn anffodus, nid yw’r brechlyn ar gael gan y Gwasanaeth iechyd, yn breifat yn unig, ac yn costi o gwmpas £250,000. I bobl fel finnau, mae hyn y tu hwnt i’n cyrraedd.

“Rydw i wedi treulio fy mywyd fel oedolyn yn gweithio i elusennau a phrifysgolion, felly mae’r swm yma o arian yn bell y tu hwnt i fy nghyrraedd i, ac rydw i wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio oherwydd fy niagnosis.”

Mae apêl i godi arian ar wefan GoFundMe bellach wedi casglu dros £19,000 tuag at y targed, ac mae’r digrifwr Elis James a Phrif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Llun: Matthew (dde) gyda'i ffrind Luke. (GoFundMe)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.