Jac Morgan: Pennod newydd ar ôl 'blwyddyn i gofio'

Jac Morgan: Pennod newydd ar ôl 'blwyddyn i gofio'
O’r Stade de Marseille i glybiau rygbi ar hyd a lled Cymru roedd y siom yn amlwg ar ôl chwiban olaf gem rownd yr wyth olaf yn erbyn yr Ariannin fis diwethaf.
Ond wrth baratoi i arwain ei wlad am y tro cyntaf ers Cwpan Rygbi’r Byd mae Capten Cymru Jac Morgan yn falch o’r hyn gyflawnwyd ar dir Ffrainc.
“Mae di bod yn flwyddyn dda. Cwpl o ups and downs ond ma’ di bod yn brofiad ardderchog,” meddai.
“Ma’ llawer o bethau ‘da ni i ddysgu o’r golled [yn erbyn yr Ariannin] a mewn ffordd ni’n gallu tynnu llinell dan Cwpan y Byd nawr a jyst symud ‘mlan a trio gwella fel carfan.”
Bydd Cymru yn wynebu’r Barbariaid yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn.
Dim ond pedwar o'r pymtheg cychwynnol a wynebodd Ariannin sydd wedi eu dewis, sef Jac Morgan, George North, Adam Beard ac Aaron Wainwright.
Tra bydd Leigh Halfpenny yn ffarwelio â'r llwyfan rhyngwladol mae Alun Wyn Jones a Justin Tipuric wnaeth ymddeol yn gynharach eleni wedi eu cynnwys yn nhîm y Barbariaid.
“Gallet ti ddweud fod e’n ddechrau [pennod newydd] i ni. Ma’ llawer o bois ifanc ymysg y squad.
“Ma’r bois sydd yn cwpla di bod yn ysbrydoliaeth a servants ardderchog i Gymru dros y blynydde.
“I ni fel bois ifanc, i allu bod yn i cwmni nhw a dysgu oddi wrtho nhw ma’ rhaid diolch am bopeth ma’ nhw di neud.”
‘Jyst crwt o Brynaman’
Mae Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi dweud bod y gwaith o adeiladu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Awstralia yn 2027 eisoes wedi dechrau.
Ond am nawr mae capten Cymru yn falch o fod nôl adref, a’r diolch i’w gymuned sydd wedi ei gefnogi yn ystod ei yrfa yn amlwg.
“Jyst crwt o Brynaman ydw i.
“Ma’r teulu i gyd yn dod o ‘na. Ma’ shwt gymaint o ffrindiau gyda fi o ‘na a ma’ nhw dal yn byw yna.
“Ma’ pawb jyst 'di rhoi shwt gymaint pryd o’n i’n ifanc a still nawr ma’ nhw’n cefnogi a gweud pob lwc bob tro. So ma’ fe’n feddwl tipyn a dwi wastad yn ddiolchgar o popeth ma’ pawb di neud i helpu a’n enwedig y teulu.”