
Cofio llwyddiannau Wrecsam a Chasnewydd ar drothwy rownd gyntaf Cwpan yr FA
Fe fydd gemau rownd gyntaf Cwpan yr FA yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn a bydd Wrecsam a Chasnewydd yn gobeithio gadael eu marc ar y gystadleuaeth eleni.
Bydd Wrecsam yn teithio i Mansfield, sydd yn bedwerydd yn Adran Dau, un safle yn is na Wrecsam.
Fe fydd Casnewydd yn herio Oldham ar gae Rodney Parade, mae eu gwrthwynebwyr yn 10fed yn y Gynghrair Genedlaethol a Chasnewydd yn safle rhif 19 yn Adran Dau.
A fydd y ddau dîm yn gallu cyrraedd yr ail rownd a dechrau ar daith i ailadrodd rhediadau cofiadwy a welwyd yn y gorffennol yn y gystadleuaeth hon?
Mickey Thomas a'r 70au
Bydd cefnogwyr hŷn Wrecsam yn cofio llwyddiannau'r clwb yng Nghwpan yr FA yn y 1970au, mewn degawd lle gwnaeth y clwb lwyddo i gyrraedd y drydedd rownd ar saith achlysur.
Buddugoliaeth gampus yn erbyn Norwich, oedd ddwy gynghrair yn uwch na Wrecsam, ddechreuodd y rhediad o guro timau o gynghreiriau uwch yn ystod y 70au.
Arfon Griffiths ac Eddie May lwyddodd i sgorio i Wrecsam yn y gêm honno, gyda'r tîm o'r gogledd yn curo'r Caneris 2-1.
Cyrhaeddodd Wrecsam yr wyth olaf yn 1974 yn dilyn buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Crystal Palace, a bedair blynedd yn ddiweddarach roeddynt yn yr wyth olaf eto.
4-4 oedd y sgôr yn y rownd flaenorol, a gan fod y gêm yn gyfartal roedd angen gêm arall ar y Cae Ras i benderfynu ar enillydd.
Wrecsam oedd yn fuddugol yn y gêm honno er iddynt fethu dwy gic o'r smotyn.
Gorffennodd y cochion y ddegawd gyda buddugoliaeth 6-2 yn erbyn Stockport yn y drydedd rownd.

Roedd yr 80au yn ddegawd gofiadwy arall i Wrecsam. Gyda'r clwb yn yr hen Ail Adran, fe ddechreuon nhw yn y drydedd rownd ar ddechrau'r 80au.
Llwyddodd Wrecsam i guro West Ham yn 1981 ac fe ddaeth buddugoliaeth gampus arall yn erbyn Nottingham Forest, oedd yn bencampwyr Ewrop dan ofal Brian Clough ar y pryd, yn The City Ground 12 mis yn ddiweddarach.
A phwy all anghofio buddugoliaeth fwyaf y clwb yn eu hanes yng Nghwpan yr FA, gyda chic rydd Mickey Thomas yn sicrhau'r fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Arsenal yn nhymor 1991-92?
Arsenal oedd enillwyr yr Uwch Gynghrair yn ystod y tymor blaenorol tra bod Wrecsam wedi gorffen ar waelod Adran Dau.

Wrecsam oedd yn fuddugol a hynny wedi gôl gan Steve Watkin a chic rydd o 25 llath wnaeth hedfan heibio David Seaman gan Mickey Thomas.
Fe wnaeth Wrecsam guro West Ham United am yr eildro yn 1997, rhediad a welodd y clwb yn cyrraedd yr wyth olaf eto.
Ond torcalon oedd hanes Wrecsam yn y cwpan y llynedd, wedi iddynt wneud yn wych i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Sheffield United, cyn colli yn yr ail gymal yn Brammall Lane.
Fe ddaeth hynny yn dilyn buddugoliaeth gampus 4-3 yn erbyn Coventry gyda Paul Mullin ac Elliot Lee yn rhwydo i Wrecsam.
Casnewydd yn caru'r cwpan
Yn wahanol iawn i Wrecsam mae buddugoliaethau fwyaf Casnewydd yng Nghwpan yr FA wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf
Roedd eu rhediad gorau yn nhymor 2018/19 pan wnaethon nhw gyrraedd y bumed rownd.
Dim ond ddwywaith y mae'r clwb wedi gwneud hynny yn eu hanes, a'r tro blaenorol oedd yn 1950, gan golli i Portsmouth o flaen torf o 48,000 - oedd yn record ar y pryd yn stadiwm Fratton Park.
Yn nhymor 2018/19 fe wnaethon nhw guro Wrecsam 4-0 yn Rodney Parade yn dilyn gêm ddi-sgôr ar y Cae Ras.
Eu gwobr oedd gêm gartref yn erbyn Caerlŷr yn y drydedd rownd.
Cafodd seddi dros dro eu hychwanegu yn y stadiwm fel bod mwy yn gallu eu gwylio, ac roedd goliau gan Jamille Matt a chic o'r smotyn gan Padraig Amond yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i'r clwb.
Middlesborough oedd y gwrthwynebwyr yn y rownd nesaf ac yn dilyn gôl munud olaf gan Matthew Dolan i unioni'r sgôr, roedd Casnewydd gartref yn yr ail gymal i geisio sicrhau buddugoliaeth a'u lle yn y rownd nesaf.
2-0 oedd y sgôr yn y gêm honno, a'r wobr oedd gêm yn erbyn pencampwyr Lloegr, Manchester City yn Rodney Parade ym mis Chwefror.
Yn anffodus i'r Alltudion, fe ddaeth eu rhediad yn y gwpan i ben wedi colled o 4-1 yn erbyn y tîm wnaeth ennill y gystadleuaeth y flwyddyn honno.
Fe wnaeth Gasnewydd cofnodi rhediad i'w gofio'r flwyddyn cynt, gyda dau ganlyniad campus yn erbyn timau o gynghreiriau uwch.
Yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Walsall a Chaergrawnt, Leeds oedd y gwrthwynebwyr yn y drydedd rownd yn Rodney Parade.
Wedi gôl gynnar gan Leeds fe wnaeth Casnewydd unioni'r sgôr wedi 76 munud cyn i'w hymosodwr Shawn McCoulsky benio'r bêl i gefn y rhwyd gyda munud yn unig i fynd.
Tottenham Hotspur oedd y tîm ddaeth i Rodney Parade ar 27 Ionawr, a'r seddi ychwanegol yno eto fel bod y dorf yn fwy na'r arfer.

Padraig Amond beniodd Casnewydd ar y blaen wedi 38 munud, ac roedd yn rhaid i Tottenham aros tan 82 munud o chwarae cyn i Harry Kane unioni'r sgôr a sicrhau bod ail gêm yn cael ei chwarae yn Wembley, cartref Spurs ar y pryd.
Fe ddaeth rhediad yr Alltudion i ben yno, ond roedd eu cefnogwyr wedi mwynhau gweld eu clwb yn brwydro gyda mawrion pêl-droed Lloegr.
Llun: Asiantaeth Huw Evans / PA