
Cymru'n osgoi'r gwaethaf o Storm Ciarán
Cymru'n osgoi'r gwaethaf o Storm Ciarán
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd bod "perygl i fywyd" o ganlyniad i falurion yn chwythu yn y gwynt.
Mae rhybudd llifogydd difrifol mewn grym yn Ninbych-y-pysgod ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio bod "perygl i fywyd."
Inline Tweet: https://twitter.com/NatResWales/status/1720062632013472169
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd annog pobl sydd ym maes carafanau Kiln Park yn sir Benfro i adael gan fod llifogydd difrifol yno.

Mae yna rybudd am lifogydd mewn grym mewn rhai ardaloedd yng Ngheredigion hefyd.
Dywedodd Dirprwy Brif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Brent Walker: "Gall rhai rannau o Gymru a de-orllewin Lloegr weld 88m o law. Bydd y glaw yma yn disgyn ar dir sydd eisoes yn wlyb, gan olygu bod llifogydd yn bosib."
Dywedodd y wyddfa Dywydd fod Storm Ciarán yn storm hydrefol eithaf arferol ar gyfer y DU, ac yn sgil yr amrywiaeth naturiol o flwyddyn i flwyddyn o ran gwyntoedd cryfion a'r nifer o stormydd gwynt, "nid ydyn ni wedi canfod tueddiadau arwyddocaol mewn arsylwadau o'r hinsawdd diweddar."
Ardaloedd ar draws de Lloegr ac Ynysoedd y Sianel sydd wedi'u heffeithio gwaethaf gan Storm Ciarán hyd yma.
Mae mwy na 10,000 o gartrefi ar draws Dyfnaint a Chernyw, Sussex, Surrey ac Ynysoedd y Sianel heb gyflenwad trydan.
Cafodd dwsinau o bobl yn Jersey eu symud i westai dros nos ar ôl i hyrddiau gwynt o hyd at 102mya ddifrodi cartrefi.
'Gwirio'r wybodaeth ddiweddaraf'
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynghori teithwyr ar y rheilffyrdd i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio gan y bydd nifer o lwybrau ar gau ddydd Iau yn sgil y storm.
Ni fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg ar linell Calon Cymru na llinell Dyffryn Conwy, gyda disgwyl i'r gwasanaeth ailagor ar y cynharaf fore Gwener.
Bydd amserlen wedi ei haddasu ar gyfer llinell y Cambrian, gyda gwasanaethau bws yn lle trên rhwng Aberystwyth a Machynlleth, a threnau yn rhedeg pob dwy awr yn hytrach na phob awr.
Ychwanegodd Trafnidiaeth Cymru bod modd i bobl ddefnyddio tocynnau ddydd Iau ar gyfer dydd Gwener, gyda thocynnau cwmnïau trenau eraill yn dderbyniol hefyd.