Newyddion S4C

Annog brechiad MMR wedi achosion o'r frech goch yng Nghaerdydd

01/11/2023
Frech goch

Mae rhieni yn cael eu hannog i sicrhau bod eu plant wedi derbyn brechlyn MMR wedi i achosion o’r frech goch cael eu cofnodi yng Nghaerdydd. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog hynny ar ôl i saith achos o’r frech goch cael eu cofnodi ymhith plant yn y brifddinas yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio i geisio atal yr haint rhag ymledu ymhellach. 

Ond dywedodd Sion Lingard, sef Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, ei fod yn rhagweld y bydd rhagor o achosion o’r frech goch  dros yr wythnosau nesaf.

“Canfuwyd cysylltiadau rhwng y saith achos felly er nad oes tystiolaeth o drosglwyddo ehangach yn y gymuned ar hyn o bryd, mae'r frech goch yn haint heintus iawn ac rydym yn pryderu y gallai fod risg i bobl nad ydynt wedi'u hamddiffyn gan frechu,” meddai.

Mae'r dôs cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod yn 12 mis oed,  gyda'r ail yn cael ei ddarparu ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. 

‘Heintus iawn’

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i fod yn wyliadwrus o’r symptomau, sy’n cynnwys brech goch neu frown; llygaid coch; peswch a thrwyn yn rhedeg.

Mae'r sefydliad yn annog rhieni unrhyw blentyn sydd â symptomau i sicrhau eu bod yn cadw draw o'r ysgol, y feithrinfa neu leoliadau gofal plant eraill. 

“Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion yw drwy frechu,” ychwanegodd Mr Lingard.

“Rydym yn annog rhieni nad yw eu plant wedi cael dau ddos o MMR fel y'i cynigir i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddygfa er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn.  

“Os nad yw plant yn ddigon hen i gael eu hail ddos, nid oes angen iddynt gael hyn yn gynharach na'r hyn a drefnwyd.”

Mae cymhlethdodau oherwydd haint y frech goch yn gyffredin, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru, gydag un o bob deg o blant yn gorfod mynd i ysbyty oherwydd cymhlethdodau difrifol fel niwmonia a meningitis. Mae un o bob 1000 o achosion yn arwain at farwolaeth oherwydd cymhlethdodau'r haint.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i gysylltu â’u meddyg teulu neu wirio symptomau eu hunan gan gysylltu â rhif 111 GIG Cymru neu ar-lein.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.