Rhybuddion am effaith cig ar yr amgylchedd yn effeithiol medd ymchwilwyr
Yn ôl astudiaeth newydd, fe allai cyflwyno rhybuddion am effaith ffermio cig ar gynhesu byd eang helpu pobl i wneud "penderfyniadau iachach a lleihau ôl-troed carbon."
Roedd dros fil o bobl yn rhan o’r astudiaeth a gafodd ei chynnal gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Durham.
Mae bwyta llai o gig er lles yr amgylchedd yn bwnc dadleuol, gyda'r diwydiant amaeth yn dadlau bod angen annog bwyta cig lleol, ac y byddai hynny yn fwy llesol i'r amgylchedd.
Yn yr astudiaeth ddiweddaraf, defnyddiodd yr ymchwilwyr amrywiaeth o rybuddion gwahanol ar gynnyrch cig, i asesu eu heffaith ar ddewisiadau pobl.
Roedd y rhybuddion ar y pecynnau cig yn cynnwys rhai am newid hinsawdd, a risgiau iechyd a heintiau pandemig y dyfodol, ac yn debyg i'r rhybuddion sydd i'w gweld ar becynnau sigaréts.
Yn ôl yr ymchwilwyr, llwyddodd pob un rhybudd i annog pobl i beidio â dewis pryd o fwyd yn seiliedig ar gig.
Yn ôl Pwyllgor Annibynnol Newid Hinsawdd y Du, byddai bwyta 20% yn llai o gynnyrch cig a llaeth yn helpu’r DU i gyflawni ei hymrwymiadau amgylcheddol.
Dywedodd uwch awdur y papur Dr Milica Vasiljevic, o Adran Seicoleg Prifysgol Durham: “Rydym eisoes yn gwybod bod bwyta llawer o gig, yn enwedig cig coch a chig wedi’i brosesu, yn ddrwg i’ch iechyd a’i fod yn cyfrannu at farwolaethau a newid hinsawdd.
“Gallai gosod labeli rhybuddio ar gynhyrchion cig fod yn un ffordd o leihau’r risgiau hyn i iechyd a’r amgylchedd.”
Wrth ymateb i’r ymchwil, dywedodd yr arbenigwr ymddygiadol yr Athro Ivo Vlaev, y gallai dangos canlyniadau negyddol bwyta cig fod yn fwy effeithiol na hyrwyddo manteision dewisiadau amgen.
Ond yn ôl yr athro o Brifysgol Warwick, mae’n rhaid i’r negeseuon ar gynnyrch fod yn deg.
“Byddai'n ddigon rhesymol i ffermwyr cyw iar organig wrthwynebu labeli ar eu cynnyrch sy’n rhybuddio am ddatgoedwigo yn yr Amason.
“Mae sicrhau tegwch, o ystyried amrywiaeth y cynhyrchion a’u hamrywiol effeithiau, yn her sylweddol,” meddai.