Protestiwr yn clymu ei hun i biler ym mhencadlys Cyngor Caerffili
Cafodd yr heddlu eu galw i bencadlys Cyngor Caerffili ddydd Llun wedi i fenyw glymu ei hun i biler yn y dderbynfa.
Dywedodd y protestiwr ei bod mewn anghydfod ers cyfnod hir gyda'r awdurdod lleol am brawf nwy, a wnaeth arwain at achos llys yn gynharach eleni.
Roedd y fenyw yn eistedd ar fat oren ac yn arddangos arwydd yn amlinellu ei honiadau.
Dywedodd bod y ffrae wedi deillio o'i phenderfyniad i osod ei phopty ei hun yn ei chartref sydd wedi ei reoli gan y cyngor ger Rhymni.
"Dwi wedi cael problemau gyda germau ers yr oeddwn i'n 11 oed," meddai.
Ychwanegodd ei bod wedi wynebu heriau yn sgil y pandemig, gan ddweud nad oedd yn gallu cael "unrhyw un yn ei chartref" o'r herwydd, ac roedd ei phryderon ynghylch hylendid cegin yn golygu ei bod wedi penderfynu gosod ei phopty ei hun.
Ond pan gyhoeddodd y cyngor y byddai'n cynnal archwiliad diogelwch nwy blynyddol, fe gafodd ei hymdrechion i beidio cael y popty yn rhan o'r ymchwiliad hwnnw eu herio gan y cyngor.
Mae'n honni hefyd fod y cyngor wedi gwrthod ei chynnig i gyfaddawdu drwy osod gorchuddion plastig amddiffynnol ar yr hobiau popty yn ystod yr arolygiad.
Wrth i'r sefyllfa ddwysáu, penderfynodd y cyngor fynd â'r achos i'r llys gan ofyn iddi gydymffurfio â'r archwiliad nwy.
Ym mis Mai, fe wnaeth barnwr gefnogi achos yr awdurdod lleol.
Dywedodd y protestiwr wrth siarad ym mhencadlys y cyngor ei bod wedi derbyn gorchymyn cyfreithiol newydd, a'i bod yn pryderu y byddai'n cael ei charcharu am ei bod wedi methu â chydymffurfio â'r gorchymyn llys.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Fe wnaethom ni dderbyn adroddiad o brotest un person yn Nhŷ Penallta, Ystrad Mynach am tua 12:40 ddydd Llun 30 Hydref.
"Yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion, fe gafodd y protestiwr, menyw 57 oed, ei chludo adref. Ni chafodd unrhyw un ei arestio."
Mae Cyngor Caerffili wedi gwrthod gwneud sylw.