
Dafydd Iwan yn dweud bod ‘agent provocateur’ wedi ceisio ei ddenu i gynllwyn yn erbyn Tywysog Cymru
Mae Dafydd Iwan yn honni mewn hunangofiant newydd bod ‘agent provocateur’ wedi ceisio ei ddenu i gynllwyn ffug i lofruddio'r Brenin Charles pan oedd yn Dywysog Cymru.
Ma’r canwr a’r gwleidydd a ddathlodd ei ben-blwydd yn 80 oed dros yr haf, yn gwneud y datgeliad yn ei hunangofiant newydd, Dafydd Iwan: Still Singing Yma o Hyd, sydd i’w lansio ar Dachwedd 9.
Mae'n dweud bod y digwyddiad rhyfedd wedi digwydd yn ystod y cyfnod cyn arwisgo Tywysog Cymru, yng Nghastell Caernarfon ym mis Gorffennaf 1969.
Bryd hynny roedd ei gân ddychanol, ‘Carlo’ ar frig y siartiau pop Cymraeg.
Dywedodd bod pob llywodraeth yn tueddu i ddefnyddio "dulliau llawdrwm diangen i gadw llygad ar bobl".
Bryd hynny "profais yn uniongyrchol ymgais eithaf pathetig gan agent provocateur i fy rhoi mewn llawer iawn o drwbwl,” meddai.

Dywedodd: "Cyrhaeddais gyngerdd yn Llanrwst a gweld bod y lle yn berwi o blismyn, a daeth dau ohonyn nhw ataf i ddweud eu bod wedi derbyn gwybodaeth bod rhywun allan i'm lladd, felly roedden nhw yno mewn niferoedd i’m hamddiffyn.
"Cefais fy hebrwng i'r babell lle'r oedd y cyngerdd yn cael ei gynnal a'm tywys i ystafell fach mewn cornel o'r babell. 'Fe fyddwn ni y tu allan os bydd arnoch ein hangen', medden nhw wrtha i.
"Wrth i mi eistedd yno, yn ceisio dod i delerau â'r hyn roeddwn i newydd ei glywed, a chael y gitâr yn barod ar gyfer y llwyfan, daeth dyn i mewn, yn edrych fel cymeriad o B-movie, a sibrwd yn llechwraidd ein bod ni wedi cyfarfod o'r blaen mewn digwyddiad Plaid Cymru yng Nghaergybi.
“Doeddwn i erioed wedi ei weld o'r blaen, ac ni welais ef byth wedyn.
"Dywedodd mai ychydig iawn o amser oedd ganddo, felly roedd e am ddod yn syth at y pwynt. ‘Mae gennym gynllun i lofruddio'r tywysog, a chi yw'r dyn iawn i'n helpu’."
"Wnes i ddim gadael iddo orffen ei frawddeg ond dywedais wrtho i’w heglu hi o ‘na, gan ychwanegu nad oeddwn am ei weld byth eto.”
Cyhoeddir Dafydd Iwan: Still Singing Yma o Hyd gan Y Lolfa, pris £9.99.