Newyddion S4C

Crasfa i Gymru yn erbyn Seland Newydd yng nghystadleuaeth rygbi WXV1

28/10/2023

Crasfa i Gymru yn erbyn Seland Newydd yng nghystadleuaeth rygbi WXV1

Fe wnaeth Cymru golli'n drwm yn erbyn Seland Newydd fore Sadwrn ym Mhencampwriaeth WXV1.

70-7 oedd y sgôr ar y chwiban olaf yn y gêm rhwng y ddwy wlad.

Roedd Cymru yn herio pencampwyr y byd ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Forsyth Barr yn Dunedin.

Sgoriodd Seland Newydd bum cais yn ystod yr hanner gyntaf gyda Rubi Tui yr asgellwraig yn croesi’r llinell gais bedair gwaith o fewn hanner awr. 

Daeth ergyd i Gymru wrth i Nel Metcalfe, oedd yn gwneud ei hymddangosiad rhyngwladol cyntaf dros Gymru, dderbyn cerdyn melyn am dynnu gwallt.

Abbie Fleming sgoriodd unig gais yr ymwelwyr, a hynny yn ystod yr ail hanner. 

Dywedodd Ioan Cunnigham, prif hyfforddwr Cymru ar ôl y gêm: “Roedd yn golled anodd. Rydym yn brifo'n wael ond rydym yma i ddatblygu a gobeithio cau'r bwlch hwnnw.

“Mae wythnos yn amser hir mewn chwaraeon ac mae gennym ni gyfle gwych i wella erbyn y gêm nesaf (yn erbyn Awstralia).

“Mae’n rhaid i ni aros yn dynn fel grŵp ac roedd yna gipolwg o bositifrwydd yn y gêm y gallwn ni ei chwarae yr wythnos nesaf."

Mae Cymru nawr ar waelod y tabl WXV1 ar ôl colli eu dwy gêm yn y gystadleuaeth hyd yma.

Colli oedd ei hanes yn eu gêm agoriadol o 42-22 yn erbyn Canada y penwythnos diwethaf.

Fe fydd Cymru yn wynebu Awstralia ddydd Gwener 3 Tachwedd yn eu gêm WXV1 olaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.