Newyddion S4C

Terfynau 20mya ‘ddim yn addas’ mewn rhai ardaloedd meddai gweinidog trafnidiaeth Cymru

27/10/2023
Lee Waters

Mae’r gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghymru wedi dweud fod yna fwy o le i awdurdodau lleol greu eithriadau i’r terfynau cyflymder 20mya.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters nad oedd y terfynau “yn addas” mewn rhai ardaloedd a bod rhagor o le i ystyried eithriadau.

Daw ei sylwadau o flaen un o bwyllgorau'r Senedd wedi i dros 460,000 o bobol arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid a ddaeth i rym fis diwethaf.

Yn ystod y cyfarfod dywedodd ei gyd-aelod o Lafur Cymru, Huw Irranca Davies sy'n cynrychioli Ogwr, ei fod wedi ei “synnu” gan yr amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol Cymru.

“Mae yna rai awdurdodau lleol sydd heb wneud dim byd - dim eithriadau o gwbl,” meddai.

“Does dim syniad fod yna bobl yn taro’n ôl yn erbyn hynny. Fe fyddwn i’n taro’n ôl am hynny.”

Dywedodd Lee Waters nad oedd am fod yn “ddogmatig” a bod y cyngor ar gyfer awdurdodau lleol yn “hyblyg”.

“Beth sydd angen newid ydi fod gan awdurdodau lleol dealltwriaeth fwy cyson ynglŷn â’r gallu sydd gyda nhw i ddadansoddi'r cyngor,” meddai.

“Rydan ni wedi bod yn trafod a oes angen pwysleisio i’r cynghorau bod angen defnyddio’r terfynau mewn ardaloedd lle mae pobl a cheir yn cymysgu.

“Dyw’r terfyn 20mya ddim yn addas lle nad yw pobl a thraffig yn cymysgu.”

‘Gwrthdaro’

Ychwanegodd Lee Waters y byddai'r llywodraeth yn dechrau “gorfodi” y terfyn cyflymder newydd wedi cyfnod o “ras” i yrwyr.

“Dydyn ni ddim eisiau mynd i mewn traed yn gyntaf a chreu gwrthdaro,” meddai.

“Rydyn ni eisiau i bobl addasu ond rydyn ni'n cyrraedd y cam lle y bydd gorfodaeth yn dechrau. 

“Rydyn ni wedi rhoi cyfnod o ras i bobl. Ond rydan ni nawr yn mynd i ddechrau gorfodi. 

“Fe wnawn ni hynny yn yr un modd ag ydan ni'n gorfodi terfynau cyflymder eraill - trwy eithriadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.