Siop elusen yn erfyn ar bobl i beidio cynnig teganau rhyw yn rhoddion
Mae siop elusen yn ne-orllewin Cymru wedi erfyn ar bobl i beidio cynnig teganau rhyw yn rhoddion.
Dywedodd siop Barnardo’s yng Ngorseinion, ger Abertawe, y dylai pobl gofio eu bod nhw’n “elusen i blant”.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe wnaethon nhw ofyn i bobol beidio â dod a theganau rhyw i mewn i’w gwerthu yn y siop.
“A fyddai modd i’r rheini ohonoch sydd mor garedig â rhoi rhoddion i ni gadw mewn cof ein bod ni’n elusen i blant,” medden nhw.
“O ganlyniad mae gyda ni dîm gwirfoddol sy'n pontio ystod o oedrannau gwahanol.
“Rydym felly yn gofyn nad ydych chi’n rhoi eich ‘cymhorthion priodasol’ (marital aids) sydd wedi eu defnyddio, a heb eu defnyddio, yn rhoddion.
“Hoffwn ni eich atgoffa hefyd fod gan y siop gamerâu cylch cyfyng felly mae modd cysylltu pob eitem gyda’u perchnogion. Diolch yn fawr.”
Cafodd Barnardo's, elusen plant mwyaf y DU, ei sefydlu yn 1886 i edrych ar ôl plant oedd yn agor i niwed.
Ar eu gwefan mae Barnardo’s yn rhestru eitemau y maen nhw’n eu derbyn gan gynnwys dillad, llyfrau, disgiau cerddoriaeth a ffilmiau, a theganau a gemau plant.
Maen nhw’n annog pobl i beidio â dod a rhai eitemau i mewn gan gynnwys offer trydanol, matresi a seddi ceir plant.