'Llais yr Elyrch' Kev Johns yn diolch i'r Gwasanaeth Iechyd am achub ei fywyd
Mae un o ddarlledwyr mwyaf cyfarwydd ardal Abertawe wedi diolch i'r Gwasanaeth Iechyd am achub ei fywyd yn dilyn ei driniaeth ddiweddar am ganser.
Dros yr 18 mis diwethaf, mae Kev Johns, sydd yn 62 oed, wedi bod dan ofal meddygon ar ôl derbyn diagnosis o ganser.
Ar ôl cwrs o imiwnotherapi a llawdriniaeth, cafodd y ddarlledwr y newyddion da ei fod yn rhydd o'r afiechyd yn ddiweddar.
Mae’n diolch i’r Gwasanaeth Iechyd a'r Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Singleton am edrych ar ei ôl.
Dywedodd: “Rwy’n un o ddwsinau o bobl sy’n mynd drwy’r uned ddydd yn rheolaidd. Mae rhai yn mynd yn wythnosol, rhai yn mynd yn fisol, ar gyfer pob math o driniaeth.
“Ac maen nhw'n derbyn yr un lefel o ofal.
“Cefais ymgynghoriadau rheolaidd - weithiau wyneb i wyneb, weithiau ar y ffôn, ac weithiau ar Zoom.
“Gwelais lawfeddyg ar gyfer ymgynghoriad yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, cefais fy llawdriniaeth yn Nhreforys, ac es i am driniaeth yn Singleton.
“Dyna’r tri ysbyty dw i wedi’u gweld… ac maen nhw i gyd wedi bod yn rhagorol. Fe wnaethon nhw achub fy mywyd.”
Pan gafodd Mr Johns y diagnosis, nid wnaeth y newyddion "suddo i mewn" am gyfnod.
“Roeddwn i'n meddwl, 'Byddaf yn iawn. Byddant yn ei ddatrys.
““Yna dywedodd yr oncolegydd, 'Ni allwn ei wella.'
“Meddyliais, 'A fyddaf yn gweld y Nadolig? A ddylwn i fynd â fy nheulu ar wyliau?' Ac fe wnes i."
Dros y cyfnod o dderbyn triniaeth, penderfynodd Mr Johns barhau gyda’i rôl fel Nanna Penny ym mhantomeim Beayty and the Beast yn Abertawe.
Dywedodd: “I ddechrau, fe wnes i ei gadw i mi fy hun. Mae llawer o bobl yn cael canser. Dydw i ddim yn wahanol i unrhyw un arall."
Ac er nad oes unrhyw arwyddion o ganser yng nghorff Mr Johns ar hyn o bryd, “nid oes unrhyw sicrwydd na fydd yn tyfu yn ôl”, meddai.
“Bydd fy nhriniaeth yn parhau, er fy mod yn iawn, nes iddynt orffen y cylch. Dim ond i wneud yn siŵr.”