Newyddion S4C

Cip ar ddwy gêm nos Wener yn y Cymru Premier JD

Sgorio 27/10/2023
Caernarfon v Cardiff Met Caerdydd

Ar gyfartaledd, mae 31 pwynt wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ers sefydlu’r fformat presennol yn 2010, ac mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi croesi’r trothwy hwnnw, gyda Cei Connah yn gobeithio gwneud yr un fath nos Wener.

Mae nhw'n herio Caernarfon sydd yn drydydd, tra y bydd Penybont yn herio Aberystwyth, sydd ar waelod y tabl.

Cei Connah (2il) v Caernarfon (3ydd) | Nos Wener – 19:45

Sgoriodd Jordan Davies unwaith eto brynhawn Sadwrn ym muddugoliaeth Cei Connah o dair i ddim ym Mhontypridd, gan ddod yn gyfartal ag Aaron Williams ar frig rhestr sgorwyr y gynghrair (11 gôl).

Dyw Cei Connah ddim wedi colli yn eu 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 9, cyfartal 2), ac mae hogiau Neil Gibson yn hynod debygol o fod yn cystadlu am le yn Ewrop eto eleni.

Mae Caernarfon mewn safle ffafriol hefyd, ar ôl rhoi crasfa o 5-1 i Met Caerdydd, ac yn sicr wedi cryfhau ers gorffen y tymor diwethaf dim ond bedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp.

Ond mae Cei Connah eisoes wedi curo Caernarfon ddwywaith y tymor hwn gan sgorio pedair gôl yn y ddwy gêm, a dyw’r Nomadiaid  ddim wedi colli yn eu 13 gornest ddiwethaf yn erbyn y Caneris (ennill 10, 3 yn gyfartal).

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅➖͏➖✅✅

Caernarfon: ✅✅❌✅❌

Pen-y-bont (7fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Wener – 19:45

Ar ôl gohiriadau’r penwythnos diwethaf oherwydd y glaw, bydd Pen-y-bont ac Aberystwyth yn awyddus i ail-gydio ynddi nos Wener ar ôl cyfnodau caled ar y cae. 

Mae Pen-y-bont wedi syrthio i’r hanner isaf am y tro cyntaf ers dwy flynedd ar ôl colli tair gêm gynghrair yn olynol gan ildio 11 gôl yn y broses.

Aberystwyth sydd ar waelod y tabl ar ôl ennill dim ond un o’u 12 gêm gynghrair hyd yma ac mae’r Gwyrdd a’r Duon mewn perygl o golli eu record fel clwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers 1992.

Pen-y-bont fydd y ffefrynnau ar ôl ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth, gan sgorio cyfartaledd o dair gôl y gêm.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ❌❌❌✅✅

Aberystwyth: ❌➖❌✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:05. 

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.