Newyddion S4C

‘Dim digon o dystiolaeth’ i gyhuddo Mbongeni Mbonambi o sarhau Tom Curry mewn modd hiliol

26/10/2023
Mbongeni Mbonambi

Mae World Rugby wedi dweud nad oes “digon o dystiolaeth” i gyhuddo Mbongeni Mbonambi o sarhau Tom Curry mewn modd hiliol yn ystod gêm Lloegr yn erbyn De Affrica.

Roedd Tom Curry wedi mynd at y dyfarnwr yn ystod y gêm gan awgrymu bod y bachwr wedi ei sarhau mewn modd a oedd yn camwahaniaethu yn ei erbyn ar sail lliw ei groen.

“Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys fideo o’r gêm, sain a thystiolaeth gan y ddau dîm, mae'r corff llywodraethu wedi penderfynu nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i fwrw ymlaen â chyhuddiadau,” meddai World Rugby.

“Felly, rydym yn barnu fod y mater wedi dirwyn i ben oni bai bod tystiolaeth ychwanegol yn dod i’r amlwg.”

Bydd De Affrica yn chwarae Seland Newydd yn ffeinal Cwpan y Byd ddydd Sadwrn a Mbongeni Mbonambi yw’r unig fachwr yn sgwad De Affrica.

Mae De Affrica bellach wedi enwi eu tîm ar gyfer y ffeinal sydd yn cynnwys Mbongeni Mbonambi yn y rheng flaen.

Roedd Tom Curry wedi holi'r dyfarnwr Ben O’Keeffe yn ystod y gêm ddydd Sadwrn diwethaf: “Syr, os yw eu bachwr nhw yn fy ngalw i’n g*** gwyn, beth ddylwn i ei wneud?”

“Dim byd os gwelwch yn dda,” atebodd y dyfarnwr.

‘Dim awgrym’

Dywedodd World Rugby eu bod nhw wedi cymryd yr honiad yn “hynod o ddifrifol”.

“Mae’n bwysig nodi bod World Rugby yn derbyn bod Tom Curry wedi gwneud yr honiadau mewn modd didwyll, ac nad oes unrhyw awgrym bod yr honiad yn fwriadol ffug neu faleisus,” medden nhw.

“Mae World Rugby hefyd yn pryderu am y gamdriniaeth y mae’r ddau chwaraewr wedi’i ddioddef ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon.

“Nid oes lle mewn rygbi na chymdeithas i gam-wahaniaethu, cam-drin na chasineb ar lafar.

“Mae World Rugby yn annog cefnogwyr i gofleidio gwerthoedd y gamp, sef parch ac undod.”

Llun Mbongeni Mbonambi gan Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.