Newyddion S4C

Dim bysus yn rhedeg ym Maesteg ar ôl 17:00 oherwydd toriadau

ITV Cymru 25/10/2023
maesteg.png

Mae gwasanaethau bysus sy’n ‘achubiaeth’ i gymuned Maesteg wedi cael eu cyfyngu ac yn stopio ar ôl 17:00 bellach.

Daw’r newidiadau i’r rhwydwaith o ganlyniad i’r Gronfa Bontio ar gyfer Bysus Llywodraeth Cymru sydd wedi cychwyn ers mis Gorffennaf ac yn parhau tan fis Mawrth 2024.  

Mae’r gronfa yn cymryd lle’r cynllun argyfwng bysus, gafodd ei sefydlu i gefnogi gweithredwyr ar ôl y gostyngiad yn y niferoedd oedd yn defnyddio bysus oherwydd y pandemig. 

Er bod y gronfa yn ei lle i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau ar draws y rhwydwaith, mae trigolion Maesteg wedi adrodd am effaith sylweddol i’r hyn sydd eisoes wedi’u disgrifio fel ‘achubiaeth.’ 

Dywedodd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr: “Gorfodwyd y cyngor i roi’r gorau i sybsideiddio llwybrau gwasanaethau bysus lleol (£148K) yn 2019 o ganlyniad i ostyngiad mewn cyllid a’r angen i wneud arbedion hirdymor sylweddol pellach oherwydd heriau’r hinsawdd ariannol genedlaethol."

'Storm berffaith'

Dywedodd y cynghorydd lleol Ross Penhale-Thomas: “Dros y ddau neu dri mis diwethaf, mae problemau wedi codi oherwydd newidiadau cyllid gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth i gwmïau bysus masnachol, fel First Bus sy’n gwasanaethu Maesteg a sir Pen-y-bont ar Ogwr.”  

Mae’n dweud bod y sefyllfa yn “storm berffaith gyda’r tri phrif rhandeilliad; Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol, a First Cymru” a “chylch dieflig” o ddiffyg cyllid, a diffyg arian trethdalwyr yn mynd i drafnidiaeth gyhoeddus.

 “Mae’r bws olaf o Faesteg tua 17:00 sy’n hollol wallgof. Mae hon yn dref o 21,000 o bobl.” 

Fe wnaeth dyn lleol, Paul Clements, esbonio wrth ITV Cymru sut mae’r toriadau i fysus yn effeithio ar ei ddwy ferch. 

Mae ei ferch 17 oed yn ei chael hi’n anodd i ddal bws i’r coleg yn y bore gan ei fod “mor llawn” ac nid yw’n gallu cyrraedd adref o’r gwaith gyda’r nos oherwydd nad oes bysus ar gael.

Oherwydd y straen wrth feddwl am fod yn hwyr i goleg, mae merch Rhiannon Hopcutt wedi dewis defnyddio gwasanaethau trên i gyrraedd ei choleg. 

Mae’r gwasanaethau bws hefyd wedi effeithio ar allu ei mab i gyrraedd y coleg, gan ei fod mor llawn nes bod y bws yn “gyrru syth heibio.” 

Dywedodd un fenyw bod hi wedi aros am ei bws am awr nes iddi orfod dychwelyd adref. 

“Bu’n rhaid i mi golli apwyntiad meddyg eto oherwydd mae’r gwasanaethau bws yn hollol chwerthinllyd,” meddai. 

“Os nad ydych chi ar gyfryngau cymdeithasol, dy’ch chi ddim yn gwybod dim. Ar ddiwedd y dydd gallwch fod yn sefyll ar y safle bws hwnnw am dros awr yn aros i'r bws nesaf ddod. 

“Mae'n frawychus. Allwch chi ddim dibynnu ar y gwasanaethau bws ym Maesteg bellach.”

Newidiadau

Mae'r darparwr gwasanaeth, First Cymru, sy'n gweithredu 108 o lwybrau yn Ne a Gorllewin Cymru, wedi lleihau a thynnu gwasanaethau yn ôl a bydd yn parhau i wneud mwy o newidiadau i'r amserlenni ar 29 Hydref .

Dywed First Cymru bod y newidiadau i rwydwaith Cymru “o ganlyniad i lai o arian gan y llywodraeth ar gyfer bysiau” a llai o deithwyr. 

“Rydym wedi gorfod edrych ar y rhwydwaith cyfan i weld lle y gellir gwneud newidiadau o fewn y gyllideb lai, ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod yn rhaid inni edrych ar lwybrau sy’n tanberfformio.

“Mae’r gostyngiad yn y cyllid sydd ar gael drwy’r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau wedi golygu bod awdurdodau lleol wedi gofyn i ni edrych ar sut y gallwn newid ein rhwydwaith o fewn cyfyngiadau pecyn ariannu llai.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Rydym wedi darparu mwy na £200m i’r diwydiant bysiau i’w gefnogi drwy’r pandemig a thu hwnt.

“Rydym yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau mwy sefydlog. Bydd ein deddfwriaeth fysiau newydd yn nodi sut rydym yn bwriadu trawsnewid y ffordd caiff gwasanaethau bysiau eu cynllunio a’u darparu yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.