Agor cwest i farwolaeth Frankie Morris o Landegfan

Mae dyfarniad cychwynnol mewn cwest wedi datgelu achos marwolaeth Frantisek "Frankie" Morris.
Bu farw'r llanc 18 oed a ddiflannodd bron i bum wythnos yn ôl ar ôl mynychu parti mewn hen chwarel yn Waenfawr o ganlyniad i grogi, meddai North Wales Live.
Cafodd corff Frankie ei ddarganfod ddydd Iau, 3 Mehefin, mewn coedwig ger Caerhun ar gyrion Bangor.
Yn agoriad ffurfiol y cwest i'w farwolaeth, a agorodd yng Nghaernarfon ar 3 Mehefin, clywodd y cwest bod aelod o'r cyhoedd wedi cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru yn adrodd eu bod yn clywed “arogl ddrwg” o'r goedwig ger Caerhun.
Darllenwch y stori'n llawn yma.