Aelod Seneddol Ceidwadol ‘ddim am sefyll yng Nghymru’ eto
Mae un o Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru wedi dweud na fydd yn sefyll yn y wlad eto.
Wrth siarad ar Sunday Supplement Radio Wales dywedodd Jamie Wallis fod ei sedd “wedi newid yn sylweddol” yn sgil cwtogi nifer yr etholaethau o 40 i 32 yng Nghymru.
Bydd Sedd Pen-y-Bont ar Ogwr a oedd yn cynnwys Porthcawl ar yr arfordir yn diflannu a seddi Aberafan Porthcawl a Phen y Bont yn dod yn ei le.
Dywedodd Jamie Wallis nad oedd yn rhoi’r gorau iddi am ei fod yn ofni colli’r sedd.
“Fydda i fy hun ddim yn sefyll yng Nghymru yn yr etholiad nesaf,” meddai.
“Mae’r comisiwn ffiniau wedi cymryd y dyfalu allan o fy nwylo i.
"Mae'r sedd wedi newid yn sylweddol,” meddai gan awgrymu fod angen “angerdd” am y sedd.
“Mae'n naturiol pan mae seddi yn newid i ymgeiswyr ofyn a yw’r sedd yn iawn iddyn nhw, ac yn fy achos i dyw hi ddim.
“Rydw i’n edrych am sedd yn rywle arall ond yn gwneud hynny gyda rhywfaint o hiwmor a safbwynt athronyddol.”
Cefndir
Cafodd Mr Wallis ei ethol fel AS Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad cyffredinol 2019, gan ennill sedd oedd wedi bod yn nwylo Llafur ers tri degawd.
Ef, sy’n dal i arddel rhagenwau gwrywaidd, oedd yr aelod seneddol cyntaf yn San Steffan i gyhoeddi ei fod yn drawsryweddol.
Dywedodd bryd hynny mai ei fwriad oedd dechrau ar y broses o drawsnewid i fod yn fenyw "cyn gynted ag sy'n bosib".
Yn 2022 cafwyd ef yn euog o yrru heb ofal a sylw digonol, ac o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am chwe mis a derbyniodd dirwy o £2,500.