Newyddion S4C

Swyddogion heddlu'r gogledd yn wynebu sêr Hollyoaks mewn gêm bêl-droed elusennol

22/10/2023
CPD Heddlu Wrecsam

Bydd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru yn wynebu rhai o sêr y sgrin fach mewn gem bêl-droed elusennol ddydd Sul.

Bydd clwb pêl-droed Heddlu Wrecsam yn wynebu sêr Hollyoaks fel rhan o ymgyrch i godi arian er lles iechyd meddwl aelodau’r gwasanaethau brys, gan gynnwys swyddogion yr heddlu, ambiwlans, yr ysbyty a’r gwasanaethau arfog. 

Mae’r llu yn benderfynol o fynd i’r afael a’r “delweddau negyddol” sydd weithiau yn gysylltiedig â’r heddlu, meddai’r Sarsiant Dave Smith a fydd yn chwarae ddydd Sul. 

Mae’n awyddus i ddangos bod swyddogion yr heddlu “fel pob un arall, tu ôl i'n gwisg” – a hynny’n union y rheswm cafodd clwb pêl-droed Heddlu Wrecsam ei sefydlu'r llynedd. 

Cysylltodd Mr Smith gyda’r actor Nick Pickard, sy’n chwarae’r cymeriad Tony Hutchinson yn y gyfres Hollyoaks, er mwyn hyrwyddo’r ymgyrch. 

“Mae’n foi hyfryd oedd yn barod i chwarae yn erbyn ni,” meddai Mr Smith. 

“Bydd y rhan fwyaf o ddynion cast Hollyoaks yn chwarae, gan gynnwys Jamie Lomas sy’n chwarae Warren (Fox) ac Owen Warner sy’n chwarae Romeo Nightingale – maen nhw i gyd yn edrych ymlaen.” 

Image
CPD Heddlu Wrecsam
(O'r chwith) Nick Pickard, Sarsiant Dave Smith, yr heddwas James Moult, yr heddwas Mark Hughes a Jamie Lomas

‘Ymgyrch arbennig’

Dywedodd yr actor Nick Pickard: “Mae CPD Heddlu Wrecsam yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned, gan godi arian i elusennau a meithrin cysylltiadau rhwng yr heddlu a'r cyhoedd. 

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i’r gêm ac yn annog pawb i gefnogi’r ymgyrch arbennig yma.”

Bydd arian yn cael ei godi er lles yr elusen Blue Light Card Foundation. Mae’r CPD Heddlu Wrecsam eisoes wedi codi dros £17,000 ar gyfer sawl un elusen leol. 

“Yn y bôn, ein prif nod yw codi ymwybyddiaeth ac arian dros achos da, ac i helpu eraill gan wneud gwahaniaeth positif,” ychwanegodd Mr Smith. 

Bydd y gêm yn cael ei gynnal yn stadiwm The Airfield yn Sir y Fflint am 17.00, a bydd disgwyl torf o oddeutu 500 o bobl. 

Image
CPD Heddlu Wrecsam
CPD Heddlu Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.