Newyddion S4C

Cau drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi er mwyn ethol ei 130ain esgob

15/10/2023

Cau drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi er mwyn ethol ei 130ain esgob

Bydd drysau Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn cael eu cloi am hyd at dridiau er mwyn dewis esgob newydd.

Yr esgob newydd fydd 130ain Esgob Tyddewi, esgobaeth sy’n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae’r esgobaeth wedi dweud eu bod nhw’n chwilio am esgob dwyieithog ac un anwleidyddol.

Daw wedi ymadawiad Dr Joanna Penberthy yn yr haf wedi cyfnod o salwch.

Roedd hi wedi derbyn beirniadaeth ar ôl iddi drydar yn 2021 yn argymell ei dilynwyr ar Twitter i beidio "ymddiried mewn Ceidwadwr".

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi galw ei sylwadau yn “anoddefgar”.

Bydd Cadeirlan Tyddewi yn cau ddydd Llun wrth i goleg o 47 o bobl, yn cynrychioli eglwysi o bob rhan o Gymru, gwrdd i enwebu a phleidleisio ar olynydd.

Y rheolau

Bydd y Coleg Etholiadol, sy’n cynnwys holl esgobion Cymru, yn dechrau ar 16 Hydref.

Caiff ymgeiswyr ar gyfer etholiad eu henwebu yn y cyfarfod, gyda thrafodaeth a phleidlais.

Caiff unrhyw ymgeisydd sy'n derbyn dau-draean pleidleisiau'r rhai sy'n bresennol ei ddatgan yn Ddarpar Esgob.

Fel arall, mae'r Coleg yn dychwelyd i'r cam enwebu ac mae'r cylch yn ailddechrau o'r newydd.

Unwaith y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud bydd y Gadeirlan yn ail-agor a bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn gwneud y cyhoeddiad wrth y drws gorllewinol.

Bydd gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i wneud penderfyniad. Os yw’n methu ethol unrhyw un ar ôl hynny, bydd y penderfyniad yn symud i’r Fainc Esgobion.

Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd.

Os bydd yn derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau'n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Cysegredig a gynhelir yn fuan wedyn.

Yna cysegrir yr esgob newydd yng Nghadeirlan Bangor, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd.

Bydd y cyfarfod ar 16 Hydref yn dechrau drwy ddathlu'r Ewcharist Sanctaidd yn y Gadeirlan am 9.30am gyda chroeso i bawb.

Yn dilyn hynny bydd aelodau’r Coleg yn cwrdd yn breifat a chaiff y Gadeirlan ei chau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.