Newyddion S4C

Rogue Jones yn cipio y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Rogue Jones

Mae Rogue Jones wedi ennill  y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a £10,000 eleni gyda’u halbwm Dos Bebés, o dan label recordiau Libertino. 

Fe gafodd y wobr ei chyflwyno i’r artistiaid mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth. 

Mae’r wobr fawreddog yn dathlu albwm yr artist llwyddiannus, a bydd Rogue Jones bellach yn derbyn £10,000 er mwyn rhoi hwb i'w gyrfa gerddorol. 

Cafodd y wobr ei chyflwyno yng Nghaerdydd gan gyflwynydd BBC Radio Cymru a Radio 1, Siân Eleri. 

Roedd Rogue Jones, sef Ynyr Morgan Ifan a Bethan Mai, o Gwm Gwendraeth, wrth eu boddau pan dderbynion nhw y wobr.

Meddai Bethan Mai: “S'genai ddim geiriau! Roedd clywed yr enw’n boncyrs, ry' ni wrth ein boddau! 

"Mae wedi bod yn amser hir yn dod (yr albwm) a ni’n falch iawn ohono.

"Mae'n golygu'r byd i ni, allai ddim rhoi o fewn i eiriau! Mae’n wych bod pobl wedi gwrando ar yr albwm a’i fwynhau gymaint.

"Beth sydd nesaf? Mae gennym deulu ifanc felly byddwn yn gweithio o gwmpas hynny.Bydd yr arian yn gwneud hynny gymaint yn haws. Bydd yr arian yn golygu y gallwn ni barhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei garu - cael y gerddoriaeth i galonnau pobl.

"Byddwn ni ddim yn aros lan yn rhy hwyr heno! Mae’n ddiwrnod gwisg ffansi fory yn yr ysgol ac mae ein merch wir eisiau gwisgo lan. Dw i’n bendant yn mynd i ddawnsio… am yr awr neu ddwy nesa!”

Roedd sawl enw adnabyddus wedi eu henwebu ar gyfer y wobr, gan gynnwys Sŵnami, Mace The Great, Hyll, Cerys Hafana a Dafydd Owain.

Dywedodd Cerys Hafana ei bod yn “anrhydedd” i gael ei chynnwys yn rhan o’r rhestr fer, tra oedd y ddeuawd electronig, Overmono, yn ddweud ei fod yn “hynod o arbennig” i dderbyn cydnabyddiaeth am wobr yn eu mamwlad.

Y band Adwaith oedd yr artist llwyddiannus y llynedd, wedi iddyn nhw ddod yr unig artist i ennill y wobr ddwywaith.

Yr artistiaid eraill ar y rhestr fer oedd:

  • Cerys Hafana – Edyf (Cerys Hafana)
  • CVC - Get Real (CVC Recordings)
  • Dafydd Owain - Uwch Dros Y Pysgod (Recordiau I KA CHING)
  • H Hawkline - Milk For Flowers (Heavenly Recordings) 
  • Hyll - Sŵn O'r Stafell Arall (Recordiau JigCal Records) 
  • Ivan Moult - Songs From Severn Grove (Bubblewrap Records) 
  • John Cale – Mercy (Domino Recording Co Ltd.) 
  • Mace The Great – SplottWorld (SplottWorld Ent.) 
  • Minas - All My Love Has Failed Me (Libertino Records) 
  • Overmono - Good Lies (XL Recordings) 
  • Rogue Jones - Dos Bebés (Libertino Records)
  • Sister Wives - Y Gawres (Libertino Records) 
  • Stella Donnelly – Flood (Secretly Canadian) 
  • Sŵnami – Sŵnamii (Recordiau Côsh Records)
  • YNYS – Ynys (Libertino Records) 

‘Anrhydeddu’

Cafodd gwobrau eraill eu cyflwyno yn ystod y seremoni hefyd, ac roedd un o gewri’r byd cerddoriaeth Gymreig, Dafydd Iwan, wedi derbyn Gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.

“Mae’n anrhydedd i mi dderbyn yr Wobr Ysbrydoliaeth eleni," meddai.

"Ac rwy’n gwerthfawrogi bod y trefnwyr wedi edrych ymhellach a chyflwyno’r wobr i mi ar sail oes o berfformio. 

“Os ydw i wirioneddol wedi ysbrydoli unrhyw un, mae hynny ynddo’i hun yn wobr amhrisiadwy,” meddai. 

Image
newyddion
Dafydd Iwan

Dywedodd y cyflwynydd radio Huw Stephens, a wnaeth sefydlu’r gwobrau gyda’r ymgynghorydd cerdd, John Rotron, ei fod yn “hynod o falch” fod y wobr wedi cael ei chyflwyno i Dafydd Iwan.

“Dyma yw ein cyfle i ddiolch i Dafydd am ei weledigaeth, ei waith a’i gerddoriaeth,” meddai. 

Roedd yr artistiaid Dom & Lloyd, Half Happy a Talulah hefyd yn derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith, wrth iddyn nhw dderbyn y wobr Triskell. 

Fel rhan o’r wobr bydd y tri artist yn derbyn £5,000 yr un er mwyn eu cefnogi gyda’u gyrfa gerddorol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.