Newyddion S4C

‘Arwyddocaol’: Stena Line yn rhoi cais i ddechrau datblygu hen safle Alwminiwm Môn

09/10/2023
Porthladd Caergybi.jpeg

Mae Stena Line wedi cymryd cam tuag at ail ddatblygu hen safle Alwminiwm Môn

Mae’r safle bellach yn cael ei adnabod fel Prosperity Parc, ac mae'r perchnogion, Stena Line wedi rhoi cais i Gyngor Sir Ynys Môn i ddymchwel hen adeiladau diffaith ar y safle.

Wedi i hen waith Alwminiwm Môn gau dros ddegawd yn ôl, nid yw’r safle na’r adeiladau wedi bod mewn defnydd ers 2013.

Mae’r safle wedi ei glustnodi ar gyfer un o'r safleoedd tollau a threthi o fewn y cynllun i ddatblygu Porthladd Rhydd Môn.

Gobaith y cynllun yw denu busnesau newydd i’r porthladd, gan greu hyd at 13,000 o swyddi ar draws gogledd Cymru.

Mae’r cwmni yn dweud fod eu cynlluniau i ddymchwel is-adeiledd presennol y safle a’i baratoi ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol yn arwydd o uchelgais y Porthladd Rhydd.

Pe bai’r cais ei yn cael ei gymeradwyo, fe fyddai’r gwaith dymchwel yn dechrau maes o law.

‘Arwyddocaol’

Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y DU yn Stena Line: “Dyma gyfnod arwyddocaol iawn i ni, ac Ynys Môn gyfan.

"Fel busnes sydd wedi gweithredu ar Ynys Môn ers dros 30 o flynyddoedd, mae Stena Line wedi ymrwymo i gyflwyno gwell ffyniant economaidd i bawb ledled yr ynys.

"Pan aethom ati i brynu safle Alwminiwm Môn y llynedd, roeddem yn benderfynol o’i adfywio a sicrhau ei fod yn cynnig swyddi a chyfleoedd i bobl ledled yr Ynys."

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a deiliad y portffolio Economaidd a Datblygu: “Rydym yn croesawu'r cais ar gyfer dymchwel adeiladau ar gyn-safle Alwminiwm Môn, a bydd hyn yn cael ei brosesu drwy ein prosesau statudol.

“Mae'r cais hwn yn llinell yn y tywod mewn perthynas â’r hen safle Alwminiwm Môn, a – thrwy ein cydweithrediad clos â Stena Line aynghylch Porthladd Rhydd Ynys Môn – mae’n cynnig dechrau newydd o ran creu nifer sylweddol o swyddi.”

Dywedodd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn:  "Dyma ddechrau’r cyfle enfawr mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn ei gynnig. 

"Ar ôl gweithio’n galed dros y blynyddoedd i’w sicrhau, mae’n wych ei weld yn datblygu nawr.  Mae pobl yr ynys eisiau gweld tir adfeiliedig yn cael ei ailddefnyddio, gyda buddsoddiad, swyddi a chynnydd, a dyma sy’n digwydd nawr."

Llun: Cyngor Sir Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.