Ymchwiliad wedi tân yng Ngwesty Parc y Strade
Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i dân gynnau mewn gwesty yn Llanelli a fydd yn gartref i geiswyr lloches yn y dyfodol.
Cafodd criwiau o Wwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i Westy Parc y Strade toc cyn 22:30 nos Sul, ar ôl adroddiadau fod tân ar risiau ar lawr gwaelod yr adeilad.
Cafodd y fflamau eu diffodd gan blismyn o Heddlu Dyfed-Powys, cyn i griwiau tân gyrraedd y safle.
Roedd swyddogion tân yn bresennol ar y safle tan oriau man fore Llun.
Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi ei anafu.
Mae protestiadau wedi eu cynnal ar y safle ers iddi ddod i'r amlwg fis Mai y byddai'r gwesty yn gartref i geiswyr lloches.
Fis Awst cadarnhaodd y Swyddfa Gartref a Clearspring Ready Homes - y cwmni sydd yn rhedeg y safle - y byddai 241 o bobl yn cael lloches yn yr adeilad, gyda theuluoedd a phlant yn eu plith.
Hyd yma, does dim ceiswyr lloches wedi eu cludo i'r adeilad.