Newyddion S4C

‘Poen meddwl bod rhywun yn sgamio pobl ddiniwed yn enw ein busnes ni’

30/09/2023
S4C

“Os ydy rhywbeth yn swnio yn too good to be true, gan amlaf mae o.”

Dyna neges Sioned Llewelyn Williams o Lanuwchllyn yng Ngwynedd, wedi i rywun ddefnyddio ei busnes i dwyllo pobl arlein.

Mae hi wedi bod yn rhedeg ei busnes ‘Parciau gwyliau Bala’ ers dros 17 mlynedd, ond mae hi wedi darganfod yn ddiweddar bod proffil Facebook ffug yn bodoli sydd yn gwerthu gwyliau i bobl yn ei bythynnod gwyliau.

“Nes i ddod yn ymwybodol o’r sgam ddechrau’r wythnos. Drwy hap a damwain fe wnaeth dynes oedd wedi aros yn y bythynnod o’r blaen gysylltu efo fi ar ôl gweld gwyliau yn cael eu gwerthu yn fy mythynnod i ar Facebook,” meddai Mrs Williams wrth Newyddion S4C.

“Nath hi o ofyn i fi ‘wyt ti’n defnyddio rhywun o’r enw Bethan Morgan i werth gwyliau yn dy fythynnod’ a udish i 'na'. Aeth hi ymlaen i ddeud mod i yn gwerthu fy ngwyliau yn ofnadwy o rhad.

“Oedd hi wedi gweld y gwyliau yn fy mythynnod i ar grŵp cymunedol Dinbych.”

Mae person ffug o dan yr enw Bethan Morgan, ac sy’n nyrs o Abertawe ond bellach yn byw yn Bala, yn gwerthu gwyliau ym mythynnod Sioned Williams.

Ychwanegodd Mrs Williams: “Wel dwi nabod bob Bethan sy’n byw yn Bala, mae Bala yn le bach. Fwy na thebyg llun rhywun hollol random ydy’r proffil yma.

“Be sy’n digwydd ydy ma’ pobl yn cysylltu efo hi ac maen nhw’n talu hi am y gwyliau yma yn fy mythynnod i.”

Mae Mrs Williams yn annog pobl i fod yn wyliadwrus wrth brynu gwyliau ar Facebook, ac i edrych am gliwiau o dwyll.

“Mae’r gwyliau yn anhygoel o rhad. Er enghraifft mae un ddynes wedi talu am wyliau yn fy mythynnod i dros Noson Galan am dair noson i wyth o bobl am £180. Ond roedd yn rhaid iddi dalu £100 o deposit felly mae hi wedi talu £280 i gyd efo’i gilydd ond mae’r Bethan yma yn deud bod hi’n cael y £100 yn nôl.

“Mae yna wallau sillafu, maen nhw’n bod yn ofnadwy o neis, maen nhw yn pushy ofnadwy. Os ‘da chi ddim yn meddwl bod rhywbeth ddim cweit yn iawn, cerwch ar y we ac ar y wefan a ffoniwch i checkio, mae o yn well bod yn saff.”

Image
newyddion
Negeseon Facebook y cyfrif sy'n honi i fod berchen bythynnod Sioned Williams

Mae Mrs Williams yn poeni y bydd “pobl flin yn cyrraedd y bythynnod yn disgwyl gwyliau sydd ddim yn bodoli.

“Does yna ddim unrhyw ffordd i fi wybod faint o bobl sydd wedi disgyn am y sgam yma ac wedi bwcio gwyliau. Felly 'sgena i ddim syniad chwaith pryd mae’r bobl yma am droi fyny.

“Dwi’n poeni bod y bobl yma am gyrraedd yma ac ella fydda nhw wedi teithio yn bell efo llond car o blant a does 'na ddim gwyliau yn bodoli achos maen bosib bydd y bythynnod yn llawn.”

Pryder arall i Mrs Williams ydy pa mor aml mae sgamiau o’r fath yn digwydd.

“Mae o jyst yn gymaint o boen meddwl achos mae o allan o’n rheolaeth ni, ond be sy’n neud o yn waeth ydy bod hi’n sgâm ofnadwy o hawdd i bobl ei wneud. A dwi'n meddwl bod o yn digwydd yn fwy aml nag ydan ni’n feddwl.

“Be sy’n fy mhoeni i hefyd ydy mae gennom ni barc gwyliau lawr y ffordd a dwi jyst yn meddwl, maen nhw di cael y manylion o’r wefan, be os ydyn nhw yn penderfynu targedu'r rheini a gwerthu gwyliau ffug yno hefyd?

“Mae o yn neud i fi fod yn ddrwgdybus, a dydi huna ddim yn braf ond dwi'n meddwl bod ac angen bod yn ymwybodol bod pethau fel hyn yn digwydd.”

Er bod Mrs Williams wedi cysylltu â’r heddlu ac yn bwriadu gwneud datganiad mae hi’n pryderu bod dod o hyd i’r bobl sydd y tu ôl i’r proffil ffug yn “dasg amhosib bron.

“Mae o mor anodd achos mae bob dim am y scamers yma yn ffug, yr enwau, ei lluniau nhw, lle maen nhw’n byw. Mae nhw neud y proffil holistig yma o bobl hyfryd ond da ni ddim yn gwybod pwy sydd tu ôl i rhain." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.