Pêl-droed: Cymru yn cynnal Pencampwriaeth Dan 19 Ewrop 2026
Bydd Pencampwriaeth Bêl-droed Dan 19 Ewrop UEFA 2026 yn cael ei chynnal yng Nghymru.
Fe gafodd y penderfyniad ei gyhoeddi yng nghyfarfod Pwyllgor Gweithredol UEFA, y corff sydd yn gyfrifol am bêl-droed yn Ewrop, ar ynys Cyprus ddydd Mawrth.
Mae’n golygu y bydd pob gêm yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol, yn cael eu cynnal ar bum maes gwahanol yng ngogledd Cymru.
Y Cae Ras yn Wrecsam, sef y stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, fydd y lleoliad ar gyfer y rownd derfynol.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei bod wedi clustnodi pedwar stadiwm arall i gynnal y gemau, sef Stadiwm Nantporth ym Mangor, Ffordd Llanelian ym Mae Colwyn, Stadiwm Glannau Dyfrdwy yng Nghei Connah, a Pharc Canol yn Ninbych.
Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd tîm Cymru yn hawlio eu lle ymhlith yr wyth tîm yn y rowndiau terfynol, fel y tîm cartref.
Dywedodd Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CPDC): “Rwy’n gyffrous iawn i weld Pencampwriaeth Dan 19 UEFA yn dod i ogledd Cymru.
“Mae’n ardal sydd â threftadaeth bêl-droed cryf ac rwy’n siŵr y bydd cefnogwyr pêl-droed yr ardal yn gyffrous iawn i gael profiad o bencampwriaeth o’r math, ac yn ein cynorthwyo er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal digwyddiad rhagorol.
“Mae gan CPDC brofiad o gynnal digwyddiadau UEFA gyda Phencampwriaeth Merched dan 19 UEFA 2013, Super Cup UEFA 2014 a Rowndiau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2017.
“Mae’r gymdeithas hefyd wedi cynnal sawl cystadleuaeth ieuenctid yn y gogledd yn ddiweddar, gan roi’r cyfle i’r ardal i fagu profiad, creu arferion da a chynyddu capasiti clybiau ar gyfer cynnal cystadlaethau.”
Ymhlith y sêr byd enwog sydd wedi cymryd rhan yn y bencampwriaeth yn y gorffennol mae Erling Haaland, Thierry Henry, Andres Iniesta a Kylian Mbappe.
Yn ôl strwythur presennol y gystadleuaeth, bydd dau grŵp yn cynnwys pedwar tîm, gyda phob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd.
Yna bydd y timoedd sydd yn gorffen yn y ddau safle uchaf yn y naill grŵp yn cystadlu yn y rownd gyn-derfynol, cyn i'r timau buddugol gystadlu yn y rownd derfynol.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru