Newyddion S4C

Prif swyddog tân yn derbyn codiad cyflog o £12,000 er ei fod o dan ymchwiliad

ITV Cymru 26/09/2023
ITV

Mae Awdurdod Tân De Cymru, sy'n goruchwylio Gwasanaeth Tân De Cymru, wedi pleidleisio'n unfrydol i roi codiad cyflog o £12,000 i'r Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway.

Mae hynny'n golygu y bydd yn codi i bron i £170,000 - sy'n uwch na chyflog Prif Weinidog y DU.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth tân y de a Huw Jakeway yn destun ymchwiliad, ond doedd dim cyfeiriad at hynny yn y cyfarfod pan gafodd ei gyflog ei drafod. 

Ar hyn o bryd, mae adolygiad diwylliannol allanol yn cael ei gynnal i Wasanaeth Tân De Cymru, yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol a cham-drin menywod gan ddiffoddwyr tân.

Fis diwethaf, datgelodd Newyddion ITV fod Mr Jakeway ei hun yn destun ymchwiliad, er mwyn darganfod a oedd wedi dweud celwydd am yr hyn roedd e’n ei wybod ynglŷn ag un o'r achosion honedig yn ystod cyfweliad gyda Newyddion ITV.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ymgynghoriaeth allanol argymell bod y Prif Swyddog Tân yn derbyn codiad cyflog sylweddol, yn ychwanegol at y cynnydd o 4.5% a gafodd y llynedd.

Bydd ei godiad cyflog hefyd yn rhoi hwb i'w bensiwn.

Dywedodd diffoddwr tân presennol: "Mae hyn yn dangos dirmyg llwyr tuag at ddioddefwyr cam-drin rhywiol, arian y cyhoedd a threthdalwyr, a diffyg llywodraethu a chraffu. Rwy'n ystyried hi’n ffiaidd bod y cynghorwyr hyn yn cynrychioli'r gwasanaeth a bod y mwyafrif yn gwisgo rhoset y Blaid Lafur."

Wrth ymateb i gais ITV News am sylwadau, dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub, y Cynghorydd Steve Bradwick: "Cyn 2022, nid oedd lefelau cyflog uwch staff wedi cael eu hadolygu ers 2004 a gwelwyd eu bod ar ei hôl hi o gymharu â rhai gwasanaethau tebyg eraill.

"Mae'r Awdurdod yn cydnabod nad oes amser cywir i adolygu cyflogau uwch, ond rydym yn teimlo ei bod yn bwysig mynd i'r afael ag anghyfartaledd cyflog sydd wedi digwydd dros gyfnod sylweddol o amser.

"Mae'r dull o adolygu cyflog y Prif Swyddog Tân wedi'i nodi yn Natganiad Polisi Cyflog Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (SWFRA). Mae'r adolygiad annibynnol o gyflogau wedi ei graffu'n drylwyr yn y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydraddoldeb. Ac yn dilyn hyn, adolygodd yr Awdurdod argymhellion yr adroddiad heddiw i gynyddu tâl Prif Swyddogion 7.81%, ochr yn ochr â'r argymhelliad i alinio cyflog ar lefel Pennaeth Gwasanaeth ac mae wedi derbyn yr argymhelliad.

"Bydd yr Awdurdod bob amser yn ystyried anghenion y Gwasanaeth, gan sicrhau ei fod yn y lle gorau i ddenu a chadw'r talent gorau i amddiffyn cymunedau De Cymru."

"Mae'r Awdurdod a'r Gwasanaeth yn credu mewn cyflog teg a chymesur i'r holl staff. Mae tâl diffoddwyr tân wedi'i osod ar lefel genedlaethol ac ym mis Mawrth eleni, pleidleisiodd 96% o aelodau Undeb y Frigâd Tân i dderbyn y cynnig cyflog o 7% wedi'i ôl-ddyddio i fis Gorffennaf 2022, ynghyd â 5% ychwanegol o fis Gorffennaf 2023. Eleni cafodd y Gwasanaeth ei achredu hefyd fel Cyflogwr Cyflog Byw."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.